Caniadau Buddug/Heddwch

Oddi ar Wicidestun
Mewn Beibl Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Buddug yn ei chystudd (ei hemyn olaf)

HEDDWCH

HEDDWCH er pob chwerw loes,
Heddwch er pob garw groes,
Heddwch er o dan y donn,
Heddwch Iesu yn fy mron,
Nefoedd er pob troion trist,
Ddyry heddwch Iesu Grist.