Caniadau Buddug/I ferch amddifad

Oddi ar Wicidestun
Helpu Iesu Grist Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Colli John

I'R FERCH AMDDIFAD.

(Ysgrifenwyd mewn Album).

Ti biau'r môr a thi biau'r mynydd,
Ti biau'r afon, a thi biau'r coed,
Ti biau'r awyr, ti biau'r blodau,
Deimlant anrhydedd gael bod dan dy droed,
O eneth gyfoethog! Ti biau'r adar,
Eiddot ti'r cwbl—etifeddes y wlad,
Na ddigalona dy fod yn amddifad,
Ti biau'r nefoedd, wyt blentyn Dy DAD.