Caniadau Buddug/Iesu Grist
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Cariad gwraig y meddwyn | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) |
Heddyw ac yfory |
IESU GRIST
(Emyn)
Ti Iesu yw fy noddfa glyd,
Rhag pob rhyw storom gref;
Ac ynnot ti yn unig mae
Fy ngobaith am y nef;
Mae bywyd a thragwyddol hedd
Yn enw Mab y Dyn,
Nid oes a leinw f'enaid i
Ond Iesu Grist ei hun.