Neidio i'r cynnwys

Caniadau Buddug/Margaret

Oddi ar Wicidestun
Y deigryn (2) Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Hafod Lon

MARGARET

GWYDDOST ystyr tlws dy enw,
Pur yw hynny, onide?
Cadw'n fyw yr ystyr hwnnw,
Rho i burdeb gael ei le;
Pur dy foes, a'th lwybrau cyson,
Pur dy ymarweddiad syw:
Gwyddost yr addewid ffyddlon,—
"Pur o galon "—"gweled Duw."