Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Cywydd Hiraeth

Oddi ar Wicidestun
Henaint Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Cywydd Priodas Owen M. Edwards

CYWYDDAU

CYWYDD HIRAETH
a ganwyd ar gais Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
ar ol Cymdeithion a'i gadawsai, 1887

Dwyfol y canai Dafydd
Am y gog ac am y gwŷdd,
"A mwyn adar a'm carai,
"A merch a welais ym Mai";
Am Forfudd a'r gwallt rhuddaur,
Y gwallt melynach nag aur.
Hiraeth trwstan am dani
Oedd ei ddyri hebddi hi;
A'i gywydd yn y gaeaf,
Hiraeth am wên heulwen haf.
Amled yr ydoedd trymlef
Hiraeth yn ei araith ef—
"Hwn a'm gyr heno i'm gorwedd:
"Hiraeth, myn Mair, a bair bedd."

Hiraeth blin sydd i minnau
Am gyfeillion mwynion mau;
Hiraeth am yr Archdderwydd—
O, am wên yr awen rydd

I mi i ddisgrifio modd
Y medrus lyfn ymadrodd ;
Imi ganu am gynneddf
Y llais a'r parabliad lleddf,
A'r dull digrifbert o wau
Y dedwydd ddywediadau.
Ond pa un all adlunio,
Pa ddyn ei wymp ddoniau o?
Ni cheisiaf, ni fedraf fodd
I'w mydru; gwell im adrodd
Enghraifft o eiriau anghryg
Dafydd ar ol Gruffudd Gryg:
"Tros fy ngran, ledchwelan lif,
"Try deigr am ŵr tra digrif;
"Lluniwr pob deall uniawn,
"A llyfr cyfraith y iaith iawn."
Ond dan fy mron i'm llonni,
Y mae gobaith, a'i hiaith hi,
Yn ateb y cawn eto,
Ar ol ei daith hirfaith o,
Ganfod y teg awenfardd
Yn Rhydychen hên a hardd.

Dyfnach erchach ein harcholl
A'n cŵyn am gymdeithion coll.
I. O. Thomas aeth ymaith;
Do, do, gwelodd ben ei daith;
Ei drigfan sy'n y drygfyd,
Efô 'n sancteiddio'r hen fyd.

Ie, W. D. hefyd aeth;
Ond dilys erys hiraeth,
A'i Hiraethgan wiwlan o
Yn dôn er cof am dano.

Ymaith aeth Owen Bencerdd,
"Primas ac urddas y gerdd;
"Edn glwys ei baradwyslef,
"Aderyn oedd o dir Nef."
Collodd ein cerdd bencerddor
A'i lais mwyn fel su y môr.
Pwy wêl gantor hefelydd
I hen ganiad "Toriad Dydd"?
Pwy gân cyn fwyned wedyn
Unwaith gerdd "y Gwenith Gwyn"?.

Bellach, f'awen a ballawdd;
Yn hwy ni chanaf yn hawdd.
Bydded pob rhwydd-deb iddynt
I'w llwyddo oll, a hawdd hynt.


Nodiadau

[golygu]