Caniadau John Morris-Jones/Dafydd Llwyd Siôr
Gwedd
← Iaith y Blodau | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Ieuenctid → |
DAFYDD LLWYD SIÔR[1]
1903
Dafydd Llwyd a fedd y llu,—Siôr enwog
Sy arweinydd Cymru;
Dwyn ei genedl dan ganu
I'mosod ar ormes du.
Dafydd Llwyd a faidd y llu—a gyfyd
O ogofau'r fagddu;
Ni cha'r fall â'i holl allu
Ol ei garn ar Walia gu.
Nodiadau
[golygu]- ↑ D. Lloyd George