Caniadau John Morris-Jones/Eiddigedd y Saint
Gwedd
← I Anthea | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Y Cusan → |
EIDDIGEDD Y SAINT
Yr eneth hoff a aeth a'm serch
Oedd gymaint uwch na neb rhyw ferch,
Ar saint y nef rhagorem ni,
Mewn glendid hi, mewn cariad fi.
A hwythau, am na fynnynt fod
Yn ail i rai sydd is y rhod,
A gymerth hon i'w plith eu hun,
A'm gadael innau'n druan ddyn.
—Duke of Buckingham.