Caniadau John Morris-Jones/Ers myrddiwn maith o oesoedd
Gwedd
← O'm dagrau i, fy ngeneth | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Pe gwypai'r mân flodeuos → |
V
Ers myrddiwn maith o oesoedd:
Mae ser disigl y nen
Yn syllu ar eu gilydd
Mewn cariad prudd uwchben.
Llefarant iaith oludog,
A phrydferth iaith a phêr;
Ac ni bu ieithydd eto
A wybu iaith y sêr.
Myfi fy hun a'i dysgodd,
Ac nid anghofiaf hi;
A'm teg ramadeg ydoedd
D'anwylaf wyneb di.