Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/I'r ardd ryw fore hafaidd

Oddi ar Wicidestun
Er pan aeth fanwylyd i Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Ymgrynhoi y mae'r tywyllwch

X

I'r ardd ryw fore hafaidd
Yr euthum gyda'r dydd,
A'r blodau'n sisial a siarad,
A minnau'n rhodio'n brudd.

A'r blodau'n sisial a siarad
 threm o dosturi a hedd—
"Na fydd yn ddigllon wrth ein chwaer,
"Wr trist a gwelw 'i wedd."


Nodiadau

[golygu]