Caniadau John Morris-Jones/Mary fy Mun
← I'r Gog | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Annabel Lee → |
MARY FY MUN
Draw dros y bryniau pell
Crwydra gwyllt afon,
Draw dros y bryniau pell
Gorffwys fy nghalon.
Glanach na gem na pherl,
Tecach ei llun,
Yno mewn tlysni trig
Mary fy mun.
Draw ar ros Claris bell
Twynna'r teg aeron,
Hongian oddiar y pren
Mae ceirios cochion;
Melysach ei gwefus fêl,
Tecach na'r un
Y fodrwy o wallt ar rudd
Mary fy mun.
Prynhawngwaith o Ebrill teg
Gwelais hi gyntaf;
Llawer prynhawngwaith fydd
Cyn y'i hanghofiaf.
Fy nghalon fel corwynt byth
Ynof y sy'n
Synio, breuddwydio am
Fary fy mun.
Rhy dyner yw hi, rhy fwyn
Byth i'm gofidio;
Rhy bur yw ei chalon hi
Byth, byth i'm twyllo.
Petwn yn arglwydd gwlad
Neu'r teyrn ei hun,
Fy oes fyddai 'n dywyll heb
Fary fy mun.
Draw dros y bryniau pell
Crwydra gwyllt afon,
Draw dros y bryniau pell
Gorffwys fy nghalon.
Glanach na gem na pherl,
Tecach ei llun,
Yno mewn tlysni trig
Mary fy mun.
—John K. Casey.