Caniadau John Morris-Jones/Mynyddgan 2
← Mynyddgan 1 | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Dwy galon yn ysgaru → |
ii
Cura'r pîn â bysedd gwyrddion
Ar y ffenestr fach o hyd;
Teifl y lloer ei haur oleuni
Drwyddi dan glustfeinio'n fud.
Y tad a'r fam yn eu hystafell,
Huno maent yn esmwyth iawn;
Ninnau'n dau, parablu'n ddifyr
A pharhau yn effro wnawn.
"Dy fod," medd hi, "'n gweddïo'n fynych,
"Credu hyn sydd anodd im;
"Ni ddaeth y tro sydd ar dy wefus
"Yno o weddïo ddim.
"Ac mae'n dro mor oer ddireidus,
"Braidd nad yw'n fy nychryn i;
"Ond tawelir f'arswyd wedyn
"Gan drem dy lygaid didwyll di.
"Ond ameu'r wyf dy gred a'th grefydd;
"Dywed imi, wrth y tân,
"Onid wyt mewn difri'n credu
"Mewn Tad a Mab ac Ysbryd Glân?"
A, fy ngeneth, yn fy mebyd
Ar lin fy mam y credais i,
Credu yn Nuw Dad goruchaf,
Ein mawr a'n mad Reolwr ni.
Ef a luniodd brydferth ddaear,
Ef roes arni brydferth ddyn;
Haul a lloer a sêr osododd
Yn eu priod rod eu hun.
Ac wrth dyfu'n fwy, fy ngeneth,
Dëellais fwy a mwy o'r drefn;
Daeth fy rheswm imi 'n oleu,
Credais yn y Mab drachefn.
Yn yr hygaraf Fab, o'i gariad
Ddatguddiodd gariad dwyfol drud;
Ac yn dâl, yn ol yr arfer,
A groeshoeliwyd gan y byd.
Wedi tyfu'n awr a darllain,
Teithio a gweled mawr a mân'
Chwydda 'mron, ac o'm holl galon
Credaf yn yr Ysbryd Glân.
Gwnaeth y rhyfeddodau mwyaf,
Ac fe wna rai eto mwy;
Drylliodd geyrydd y gorthrymwyr,
Drylliodd iau eu ceithion hwy.
Mae'n iachau hen glwyfau marwol,
Cyfyd hen iawnderau'n fyw;
Genir pawb yn gyd-etifedd
○ uchel fonedd dynol ryw.
Gyr ar ffo ryw fall gymylau,
A'r dychmygion duon sydd
Yn grwgnach serch a lloniant inni,—
Mingamu arnom nos a dydd.
Dewisodd fil o ddewr farchogion,
Fe'u gwisgodd mewn arfogaeth llawn,
I gyflawni 'i holl ewyllys,
Ac fe'u gwnaeth yn eofn iawn.
A'u cleddyfau draw'n melltennu,
A'u baneri'n chwyfio fry;
Oni fynnit weld, fy ngeneth,
Un o'r fath ardderchog lu?
Edrych arnaf fi, fy ngeneth,
Rho i mi gusan wrth y tân;
'R wyf fy hun yn un ohonynt.
Marchog Urdd yr Ysbryd Glân.