Caniadau John Morris-Jones/Pan fyddwyf yn y bore
Gwedd
← Ti ferch y morwr tyred | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Pa fodd, a mi'n fyw eto → |
XIV
Pan fyddwyf yn y bore
Yn pasio d'annedd di,
Mae golwg ar dy wyneb
Yn llonni 'nghalon i.
Â'th dyner lygaid duon
Gofynni'n fwyn i mi,
"Pwy wyt ti, glaf ddieithrddyn,
"A pheth yw dofid di?"
Bardd alltud wyf, ac enw
Sydd imi dros y lli;
Enwer yr enwau goreu,
Ac enwir fy enw i.
A'm gofid i yw gofid
Llaweroedd dros y lli;
Enwer pob dyfnaf ofid,
Fe enwir fy ngofid i.