Caniadau John Morris-Jones/Toriad y Dydd
← Cymru Rydd | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Y Bachgen Main → |
TORIAD Y DYDD
'Rwy'n hoffi cofio'r amser,
Ers llawer blwyddyn faith,
Pan oedd pob Cymro'n Gymro gwir
Yn caru'i wlad a'i iaith ;
Llefarai dewr arglwyddi
Ein cadarn heniaith ni,
Parablai arglwyddesau heirdd
Ei pheraidd eiriau hi;
Pan glywid yn y neuadd
Y mwynion dannau mân,
Mor fwyn yr eiliai gyda hwy
Ragorol iaith y gan.
Ond wedi hyn trychineb
I'r hen Gymraeg a fu,
Ymachlud wnaeth ei disglair haul,
Daeth arni hirnos ddu.
O'r plasau a'r neuaddau
Fe'i gyrrwyd dan ei chlais;
Arglwyddi, arglwyddesau beilch
Sisialodd iaith y Sais;
A phrydferth iaith y delyn
Fu'n crwydro'n wael ei ffawd,
Ond clywid eto'i seiniau hoff
Ym mwth y Cymro tlawd;
Meithrinodd gwerin Cymru
Eu heniaith yn ei chlwy',
Cadd drigo ar eu tafod fyth,
Ac yn eu calon hwy.
Gogoniant mwy gaiff eto,
A pharch yng Nghymru fydd;
Mi welaf ddisglair oleu 'mlaen,
A dyma doriad dydd!