Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Y Blodeuglwm

Oddi ar Wicidestun
Y Dymuniad Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Llateiaeth yr Awelon

Y BLODEUGLWM

Fugeiliaid cesglwch imi
O flodau detholedig,
Addewais glwm plethedig
O'r rhain i Wenno dlos;

Mi a'i gwnawn i gyd fy hunan,
Ond hwyr yw'r awr i hynny;
Mae'r wawrddydd yn tywynnu
Yn wridog fel y rhos.

Dywedaf fi mai minnau
A'i gwnaeth i'r eneth fwynaf;
Ond O, pam y difwynaf
Fy ngwefus wrthi hi ?
Nis mynnaf; a phes mynnwn,
Hi wyddai wrth eu nodau,
O fil a mil o flodau,
Pa rai fai 'mlodau i.

—Ugo Foscolo.


Nodiadau

[golygu]