Caniadau John Morris-Jones/Y Gaer sy ger y Lli
← Cathlau'r Hesg | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Blodeuyn yr Alaw → |
Y GAER SY GER Y LLI
A welaist ti'r uchelgaer,
Y gaer sy ger y lli,
Ac aur a rhos gymylau
Yn hofran drosti hi?
Hi fynnai wyro obry
I'r gloywddwr disglair iawn,
Ac esgyn fry i fflamgoch
Gymylau y prynhawn.
"Mi welais yr uchelgaer,
"Y gaer sy ger y lli,
"A'r lloer yn sefyll drosti,
"A tharth o'i hamgylch hi."
A suai awel hoyw?
A seiniai dedwydd donn?
A glywaist sŵn y tannau
O'r gaer, a lleisiau llon?
"Yn dawel iawn gorffwysai
"Y gwynt a thonnau'r lli;
"A galar gerdd a glywais
"O'r gaer, ac wylais i."
A welaist tithau'r brenin
A'i gydwedd tua'r gaer,
A chwifiad mentyll porffor,
A gwawl coronau claer?
Ac onid oeddynt ddedwydd
Yng nghwmni eu geneth lon,
A thegwch fel yr heulwen
Yn twynnu'n eurwallt hon?
"Y tad a'r fam a welais
"Heb goron gan yr un,
"Mewn duon wisgoedd galar-
"Ni welais ddim o'r fun."
—Uhland.