Caniadau John Morris-Jones/Y Gwylanod
Gwedd
← Môn a Menai | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Yn y Cwch → |
Y GWYLANOD
Rhodio glan y mor yr oeddwn,
Meddwl fyth am danat ti;
Hedai cwmwl o wylanod
Buain llwyd uwchben y lli.
Troelli'n ebrwydd ar yr adain
Wnaeth yr adar llwyd-ddu hyn;
Yn y fan, yngoleu'r heulwen,
Gwelir hwynt yn ddisglair wyn.
Bu fy nyddiau gynt yn llwydaidd,
Ac heb lewych yn y byd;
Twynnodd gwawl dy gariad arnynt-
Gwyn a goleu ynt i gyd.