Caniadau John Morris-Jones/Yr Afon yn y Coed
Gwedd
← Ti f'Anwylyd yw 'Mrenhines | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Seiriol a Chybi → |
YR AFON YN Y COED
'R wy'n cofio'r nos y safem
Ar ben y bont bren draw,
A'r afon foch yn ddedwydd
Yn llithro is ein llaw.
Y coed yn dduon dduon,
A'r afon hithau 'n wen,
Lle twynnai'r lleuad arni
Trwy frigau'r coed uwchben.
Rhoist imi lân gusanau,
A'r lleuad wen yn dyst;
Sibrydais eiriau dedwydd
Yn glodrydd yn dy glust.
Breuddwydiaf eto'n fynych
Fy mod yn gweld y fan,
A'th wyneb annwyl dithau
Yngoleu'r lleuad gann;
Mi wela'r duon goedydd,
Mi wela'r glaerwen donn—
Ynghanol dyddiau duon
Rhyw orig wen oedd hon.