Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Yr Hwyr Tawel

Oddi ar Wicidestun
Arianwen Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Duw Cadw'n Gwlad

YR HWYR TAWEL

Mae'r ddaear yn tawelu,
A'r haul yn cyrchu 'i wely
Dros eang feysydd Môn;
A'r adar mân ni chlywir mwy,
Distawsant hwy a sôn.

Mae Menai'n huno'n dawel,
Ni chofìa am un awel
Fu gynt yn blino'i hi;
Heb arni ol na chraith na chrych,
Fel drych yr edrych hi.

A'r badau ar ei minion,
 hwyliau swrth a blinion
Yr hepiant hwy mewn hedd;
A thawel ydyw'r fynwent draw,
A distaw ydyw'r bedd.

Ac yno dan wyrdd gangau
Yn huno hun yr angau
Mae annwyl rai i mi;
Ac eflfro iawn, a'm dagrau'n Ilyn,
Wrth gofio hyn, wyf fi.


Nodiadau

[golygu]