Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Castell Carn Dochan
← Y doniol W. E. | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y Dwyfol Waredwr → |
CASTELL CARN DOCHAN.
AR noswaith loergan ddiwedd haf,
Er's llawer o flynyddau,
Cychwynai mintai fechan ddewr
Yn llwythog dan eu harfau:
Y lleuad dlos yn gwenu'n llon,
A'r ser yn dawnsio weithian,
O falchder wrth oleuo'r rhain
O Gastell hoff Carn Dochan.
Ceid golwg benderfynol ar
Y cewri cedyrn yma;
A phan yn cofio am y brad,
Eu gwaed Cymreig a ferwa;
A gwenau'r capten ieuangc llon,
Fel mam ar wên ei baban;
Wrth arwain meib hen Walia wyllt
O gastell hoff Carn Dochan.
Ymbletha'i gariad am ei wyr
Fel eiddew am y dderwen,
A llawer gwaith yn ymladd bu'nt
Tan faner y Geninen;
Ond er mor fawr—'roedd cariad mwy
Cydrhyngddo ef a'i rian,
Yr hon edrychai ar ei ol
O gastell hoff Carn Dochan.
Erfynia'r fun trwy weddi daer
Ar Dduw, o'i fawr drugaredd,
Ofalu am y fintai hon
A'i harwain i anrhydedd;
Atebodd Duw ei gweddi daer,
A gwyliodd y gyflafan:
O'u rhengoedd hwy ni chollwyd un,
O gastell hoff Carn Dochan.
Ar noswaith loergan ddiwedd haf,
Er's llawer o flynyddau,
Dychwelai'r fintai fechan hon,
A'r rhuddwaed ar eu harfau;
Y lleuad dlos yn gwenu'n llon,
A'r ser yn dawnsio weithian,
O falchder wrth oleuo'r dewr
Yn ol i Gastell Dochan.