Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Cyn i'm huno

Oddi ar Wicidestun
Blodeuglwm ar fedd E Leary Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Mor ddedwydd 'roeddem ni

CYN IM' HUNO
(Efelychiad)

M bob ffafr ddangoswyd ini
Heddyw gan fy Nuw Ior,
Diolch wnaf i'r Iesu.

O fy Nuw! beth allaf roddi
Am dy fawr ofal di?
Noddwr pob daioni.

Paid a'm gadael byth yn angho',
Boed dy hedd imi 'n rhan
Nes cyrhaeddaf yno.

Tyr'd, ymwel a mi yn ddyddiol,
Tyr'd yn nes,—aros di
Gyda mi 'n wastadol.


Nodiadau

[golygu]