Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Dathliad priodasol i Mr C. E. J. Owen

Oddi ar Wicidestun
Hen Gloch y Llan Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Ymadawiad y Cymro

DATHLIAD PRIODASOL
I Mr. C. E. J. Owen, Hengwrt Uchaf, a Miss M. Vaughan, Nannau.

HENFFYCH rinwedd mawredd Meirion,
Uchel olwg bryd a chalon.
'Hengwrt Ucha' a Nannau 'n union
Unir yn ei nerth;
'E gyfunir hen gofianau,
Ecco rwyga trwy y creigiau,
Daear sieryd am drysorau,
Rhai goreu mawr eu gwerth.
Dathlir gwyl yr undeb,
Calonau glân mewn purdeb,
Mawr eu llwydd y Cymry llon,
Hardd wendon o diriondeb;
Undeb calon dau'r un dynged,
Undeb meddwl, gair a gweithred,
Tra rhed y dwr i'r pant.
Tra brithyll mewn aberoedd,
Tra'n llaith y bydd y dyfroedd,
A thra bo adar yn y coed
A'u hysgafn droed neferoedd ;
Tra bo'n curo arwydd cariad,
Tra bo'n amlwg enaid teimlad,
Nei a noda bur fynediad
Eu galwad gwir i'w phlant.

Tra bo'r Gadair yn ymgodi
Ar y bryniau i'r wybreni,
Adgof geir am wir haelioni
Yr hen deuluoedd hyn;
Tra bo adar yn y goedfron
Yno'n canu mwyn acenion,
Tra gloew ddwfr yr afon Wnion
A physgod yn y llyn,
Bydd cof o'r wyl odidog
Pan unwyd dau mor serchog,
A phawb yn canu ac yn son
Am roddion mor ardderchog;

Hen ac ieuanc yn ymdyru
I hel achau iach y teulu,
Ar y floddest gorfoleddu
Yn dathlu undeb serch;
'E nodir dymuniadau
O eigion pur galonau,
Pawb a'u gweddi ar eu rhan
Mewn tref a llan fo'n ddiau ;
A bydd 'Hengwrt' hoff a Nannau
Yno'n unol eu calonau,
Yma'n hudol dymuniadau,
Pan mae mab a merch.


Nodiadau

[golygu]