Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Fy Ngwlad

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Yr Eos

CANIADAU GLAN CYMERIG.



FY NGWLAD.

FY ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
Rhyw Eden hudol yw;
Dy froydd teg, a'th fryniau mad,
Dy ddyfroedd gloewon byw;
Llynoedd gloewon ymddisgleiriant
Fel drychau arian ymddanghosant
Llûn mynyddoedd yn ymgodi,
Ar y bryniau i'r wybreni;
Gydia'n hynys fel cadwyni.
Ag arall fyd.

Fy ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
Paradwys wyt i mi;
O dan y nef ni chaf fwynhad,
Fel ar dy fronau di;
Hen gartref rhyddid, gwlad y delyn,
Wyt ti er gwaethaf trais y gelyn,
Yn nhawelwch tragwyddoldeb
Awen Cymru, a'i thlysineb,
Unir byth mewn anfarwoldeb
Ag arall fyd.

Fy ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
'Rwyt ti yn fyd o gân;
A myn Ceridwen roi mawrhad,
Ar awen Cymru lân;
Yn anwyl wlad fy ngenedigaeth,
Y mae pob cwmwd yn farddoniaeth.
Uwch bedd amser a'i flynyddoedd,
Hanes ei hen gymanfaoedd
A gysylltir yn y nefoedd,
Ag arall fyd.


Nodiadau

[golygu]