Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/I'r Parch E T Davies (Dyfrig)

Oddi ar Wicidestun
John Penri Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

I Blas Rhiwaedog

I'R PARCH. E. T. DAVIES (DYFRIG.)

NOD hoewfron enaid Dyfrig,—a daenwyd
Mewn doniau brwdfrydig;
Ac heno, drwyddo fe drig
Oleudy anweledig.

Eglurodd i ni 'r moddion—i gyraedd
Goror y Nef wiwlon;
Pa ryfedd, i wledd fel hon
Danio eneidiau dynion?

Gwen hudol ei genhadaeth—a erys
Yn goron hardd odiaeth;
Yn myd dyrus ysbrydiaeth,
Dyna'n wir ein denu wnaeth.


Nodiadau

[golygu]