Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Llinellau Dyhuddol am Meyrick
← Ifor Wyn o'r Hafod Elwy | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Cynghor i Lwydlas a Taliesin o Lyfnwy → |
LLINELLAU DYHUDDOL
Am Meyrick, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Jones, Trawsfynydd
WAITH rhy anhawdd yw darlunio
Beth yw colli plentyn mâd,
Nid oes dim all ei ddesgrifio
Ond dwys deimlad mam a thad;
Y mae teulu Pant y Celyn
Heddyw'n gwybod beth yw hyn,
Er fod MEYRICK eu hoff blentyn
Yn y nef yn angel gwyn.
Gwywo, gwywo, wna'r blodeuyn
Dorir ymaith ar y ddol;
Gwywo, gwywo, wnaeth y plentyn
Y galarwn ar ei ol;
Cyn ymagor, cyn difwyno
Ei ddihalog wisg erioed,
Fe aeth MEYRICK bach i urddo
Coron Crist yn bum' mlwydd oed."
Fe adawodd ei deganau
Ar ei ol cyn myn'd i'r nef,
Yno cafodd aur delynau
I'w ddyddanu yn eu lle;
Ah! rieni, nid i'w fagu
Y rhoed ef i chwi gan Dduw;
Na, anwylun i'w anwesu
Fu eich plentyn tra bu byw.
O mor fyw yw'r adgof heno
Am yr anwyl un dinam,
Byth nis gellir ei anghofio
Gan ei hoffus dad a mam :
Pan roed ef mewn bedd i orwedd
Claddwyd eu serchiadau hwy
Gyda'u plentyn mewn unigedd
Draw yn mynwent hen y plwy'.
Dagrau hiraeth sy'n eneinio'r
Blodau cain o gylch y fan
Lle gorwedda MEYRICK heno
Mewn tawelwch ger y llan;
Er mor hardd yw'r prydferth flodau,
Er mor ddwyfol yw eu gwedd,
Harddach i ni ydoedd gwenau
'R hwn sy'n gorwedd yn ei fedd.
Os rhoed blodau hedd i wenu
Ar ei feddrod bychan ef,
Yntau roed yn mreichiau'r Iesu
Fry i wenu yn y nef;
O mor felus ydyw cofio
Beth yw marw i gael byw
Gydag engyl i adseinio
Y dragwyddol gân i Dduw.