Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Llygaid y dydd

Oddi ar Wicidestun
I Lyfr fy nghyfaill Gwaenfab Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Yr Elor

LLYGAD Y DYDD

LLYGAD y dydd, sydd a'i swyn—dihalog
Hyd y dolydd hyfwyn;
Ynddo ein Duw sydd yn dwyn
Gwenau dwyfol i'r gwanwyn.


Nodiadau

[golygu]