Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Mynwent Llanycil
Gwedd
← I Wyn J Williams ar ben ei flwydd | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
I Constance Mary → |
MYNWENT LLANYCIL
LLANYCIL uwch y llyn acw—a saif
A swyn lon'd ei enw;
Yma erys ein meirw,
Nawdd y ne' fo'n eiddo nhw.
Nodedig hynod ydyw—y fan hon,
Y fynwent uchelryw;
A'i mawrion—ah, mirain yw,
A gyfraf yn ddigyfryw.
Enwogion o wir ddawn hygar—a roed
'Lawr yma 'n y ddaear;
Yn ngwaith Ion, fel gweision gwar,
Ymddygant mewn grym aiddgar.