Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Udgorn y Jiwbili

Oddi ar Wicidestun
Goresgyniad Gwlad Canaan gan Josua Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Cwyn Coll

UDGORN Y JIWBILI

A udgorn y Jiwbili fu gynt yn taranu
Ei oslef alluawg, pwy pwy all ddychmygu?
'R olygfa urddasol pan welwyd y caethion
Yn lluoedd aneirif yn dyfod yn rhyddion,
Erch ddorau 'r carcharan pryd hyn a agorwyd,
A myrdd o gaethweision yn cydgwrdd a welwyd,
Rhyfeddol newidiad-o ryfedd olygfa,
Trwy adsain yr udgorn pob calon ddychlama,
Gofidiau'r caethiwed yn awr a ddiflanant
O olwg y lluoedd, a hwythau gofleidiant
En gilydd o falchder wrth wrando dolefau
Yr Udgorn, yn adsain draw draw trwy'r mynyddau
Eu gwelw wynebau ddanghosant yn eglur
Mae torf y caethiwed fu'n dioddef trwm lafur
A welid yn rhodio trwy'r maesydd toreithiog,
Yn rhodio mewn rhyddid yn dyrfa fawreddog,
A'u lleisiau'n cyfeilio yn melus berori
Beroriaeth felodaidd 'Udgorn y Jiwbili."

*********
Trwy gaddug yr oesau dychmygaf wel'd bwthyn
Yn llechu yn dawel yn nghesail y dyffryn,
A'r plant ar yr aelwyd mewn dychryn yn gwrando
Ac ecco yr Udgorn trwy'r creigiau 'n adseinio,
A'r fam mewn llawenydd yn ceisio desgrifio
I'w theulu mai rhyddid oedd hyn yn arwyddo;
Er hyny 'r plant bychain nis gallent amgyffred
Pa beth a feddylid yn awr wrth gaethiwed.
Cyn hir, dyna guro, a'r drws a agorwyd,
A'r tad at ei deulu yn ol a ddychwelwyd.
O! brydferth olygfa, y croesaw dderbyniodd;
Y teulu yn awr o lawenydd a wylodd,
Trwy'r dagrau fe godent eu golwg i'r nefoedd
I dalu eu diolch i Arglwydd y Lluoedd.
Llawenydd a lanwai pob cwmwd trwy Ganaan,
A'u mawl a gyrhaedda i'r nefoedd ei hunan,
Ac engyl y wiwlan o gylch y wen orsedd
Wrandawant yn astud ar lais hoff trugaredd;

Cerubiaid, seraphiaid, ac engyl yn moli
Ar ganiad anfarwol ‘Udgorn y Jiwbili.

*********
Pan glywyd yr Udgorn trosglwyddwyd meddianau
Yn ol i'w gwir berchen yn swn ei hoff seiniau,
A mawr y llawenydd a welwyd yn mhob man
Pan ddeuai'r alltudion yn ol i wlad Canaan
I dderbyn eu heiddo yn rhad, yn "ddiddyled,"
Y tlawd a'r cyfoethog, yn awr o gaethiwed
Ymlament yn heini, a thaflwyd dialedd
O'r neilldu i drengu ar allor trugaredd,
A RHYDDID gyhoeddwyd trwy'r wlad i'r trigolion
Ar flwyddyn y Jiwbili llanwyd pob calon
A chariad brawdgarol, hyf othrwm ddiflanodd
Fel niwl i ddinodedd o'r golwg a suddodd
Yn swn ber.digedig yr Udgorn arianaidd
A'r flwyddyn a gedwid trwy'r holl wlad yn sanctaidd.

*********
A hithau'r ddaearen a huliodd ei byrddau
Yn llawn o fendithion myrdd, myrdd o berlysiau
A wenant ar fynwes toreithiog y dolydd
O ddwylaw trugarog y Nefol Waredydd.
A hwythau'r gwinllanoedd a blygant yn wylaidd
Tan bwysau eu ffrwythau-aroglant yn beraidd,
Tra'r awel yn llwythog, ymdaena ei mantell
Bersawrus, cyrhaedda ororau anghysbell.
Danghosodd y ddae'r trwy 'i ffrwythau aneiri.
Mai Duw oedd ei hunan yn Udgorn y Jiwbili.

Trwy niwloedd yr oesau ar gerbyd chwim amser,
Yr Udgorn adseinia ei adlais melusber,
Trwy enau'r proffwydi ei nodau a dreiddia
Fel trydan, nes adsain ar gopa Calfaria.
Gwefreiddir yr Udgorn yr holl greadigaeth
Gan felus gyhoeddi i fyd waredigaeth.
Pryd hyny yr engyl farchoga'r cymylau,
Gan seinio yr Udgorn mewn dwyfol gerbydau,
A'r ddaear a'r nefoedd pryd hyn a briodwyd,
Pan roddodd y Ceidwad tros bechod ei fywyd.


Nodiadau

[golygu]