Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Y Crwydryn

Oddi ar Wicidestun
Hen Eglwys Llanycil Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

I'r Sol-ffa

Y CRWYDRYN
(Dernyn Adroddiadol.)

ER fin y ffordd un noswaith oer
Eisteddai'r crwydryn gwelw,
Tra ar ei ruddiau llwyd, y lloer
Ddangosai lûn y marw;
'Roedd rhywbeth yn ei olwg prudd
Yn hawlio cydymdeimlad,
A dagrau gaed ar ruchiog rudd
Y crwydryn tlawd amddifad.

Oddeutu'r fan 'roedd anian dlos
Yn huno mewn tawelwch,
Y sêr uwchben-cain emau'r nos,
Ddisgleirient yn eu harddwch;
Cydrhwng y sêr, y lleuad wen
Fel rhyw angylaidd genad,
A wylia'n fûd, fry, fry uwchben,
Y crwydryn tlawd amddifad.


Ond ebai'r crwydryn gwael ei wedd,
Fy nghyfaill, tyred gwrando;
Ymylu'r wyf ar fin y bedd,
Cyn hir fe fyddaf yno:
Bum inau gynt 'run fath a ti,
Yn wrthddrych serch a chariad;
Ond heddyw beth, am danaf i—
Y crwydryn tlawd amddifad.

Fy magu'n anwyl gefais gynt
Ar aelwyd fy rhieni,
Ond angau creulon ar ei hynt
Ddatododd y cadwyni—
Fu'n gwneyd y cartref hwnw'n glyd
Yn fan lle cawn dderbyniad,
Ha nid oes cartref yn y byd
I'r crwydryn tlawd amddifad.

Os gwrthodedig gan y byd
Wyfi y crwydryn unig,
Mae yna un uwchben o hyd
Fu gynt yn wrthodedig ;
A thrwy ei ddioddefaint Ef—
Y pur ddilwgr Geidwad,
Agorwyd ffordd trwy byrth y Nef
I'r crwydryn tlawd amddifad.


Nodiadau

[golygu]