Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Y Fron-fraith
Gwedd
← Merch y Morwr | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y Blodau → |
Y FRONFRAITH
WI, wi, yw cân y fronfraith seinber,
Sydd fry ar frig y pren:
Mor swynol yw ei chân bob amser,
Wi, wi, myfi yw'r pen;
A'i nefol odlau hon a ddena
Y Gwanwyn yn ei ol?
Yr hwn â mantell werdd a wisga,
Hardd wyneb bryn a dôl.
Cerddorfa'r goedwig sy'n adscinio
Eu hodlau bob yn ail,
A'r awel fwyn sydd yn CYFEILIO
Eu nodau rhwng y dail;
Ond UNAWD y cantorion genir
Gan lais y fronfraith fwyn,
Yr hwn yn fôr o fawl a glywir
Draw, draw yn nghwr y llwyn.
Mae rhywbeth yn ei chân yn lloni
Fy mhrudd ofidus fron.
'Rwyf weithiau fel pe yn gwirioni
Wrth wrando nodau hon;
Wi, wi, fy hoff aderyn anwyl,
Sydd yn fy nenu i
I amheu, ai nid cân yr engyl
Yw'r gân sydd genyt ti?