Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Y Meddwyn
← Heddgeidwad | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
I Wyn J Williams ar ben ei flwydd → |
Y MEDDWYN.
Dernyn Adroddiadol
FE gwympodd, fe gwympodd yn aberth i'r ddiod,
Trwy gwympo anghofiodd ei deulu a'i briod,
Melldigawl gadwynau herfeiddiawl y fall
Ymblethant am dano, ac yntau yn ddall.
Nid ydyw yn edrych tros ddibyn anobaith,
Nid ydyw yn edrych ar rym ei anfadwaith,
Mae'n ddall, yn aberthu, 'n aberthu ei blant
I foddio cynddaredd anrhaethol ei chwant;
Ofnadwy olygfa yr euog crynedig,
Yn suddo dan bwysau ei chwant felldigedig.
I fyd y trueni mae'n hyrddio ei hun,
Heb ddrych yn y cread all ddangos ei lun,
O ryfedd demtasiwn, mae'th nerth yn angherddol,
Yn domen aflendid yn nwylaw y diafol;
A llu o ellyllon yn arwain heb ball
Y meddwyn truenus i grombil y fall:
Gadawodd ei gartref, ffarweliodd a'i fwthyn,
Ar fynwes ei briod gadawodd ei blentyn,
Heb un peth i guddio ei noethni ond carpiau,
A newyn yn syllu yn hyf i'w gwynebau,
Cychwynai y fam at riniog y ddor
(Yn ameu bodolaeth trugaredd yr Ior:)
Ond ust!! mae'n gweddio, mae'n erfyn ar Dduw
Anghofio ei chamwedd er dued ei liw.
Udiadau y gwynt oddi allan,
Taranau yn rhuo gerllaw,
A'r fam yn cofleidio ei baban
I'w mynwes mewn dychryn a braw;
Y mellt oedd yn fflachio bob enyd—
Ymddengys y byd fel ar ben:
Yn ngoleu y mellt mor ofnadwy
Oedd duon gymylau y nen.
Ah! noswaith i'w chofio oedd hono
Gan deulu y meddwyn bob un,
'Roedd natur o'u deutu'n ymwylltio,
Gan ddangos ei nerthoedd ei hun;
'Doedd unman ond drws y tyloty
Yn barod i'w derbyn pryd hyn,
Ac yno yn araf 'r ä'r teulu
O'r bwthyn ar lethr y bryn.
Derbyniwyd hwynt yno'n garedig
Gan un lywodraethai y fan,
A safai yn fud a synedig
Wrth estyn cynorthwy i'r gwan,
Eu golwg ar unwaith a dystia
Mai medd'dod adawodd ei ol,
A syrthiodd y fam ar ei gliniau
Gan ollwng ei baban o'i chol.
Gweddiodd ar Dduw ei Chreawdwr,
Sisialai, "O Arglwydd fy Ior,
Fy Iesu trugarog, fy Mhrynwr,
Trugaredd sy'n lliîo yn fôr,
O gwrando ! fy Ngheidwad, O gwrando!
'Rwy'n erfyn am i ti yn awr
Waredu y meddwyn sy'n hyrddio
Ei enaid colledig i'r llawr."
Pa le mae y meddwyn, pa le mae y meddwyn?
Mae breichiau yr Iesu yn barod i'w dderbyn,
Pwy wyr na fydd eto yn addurn urddasol
Yn nghoron y Ceidwad yn addurn anfarwol;
Ni fedd creadigaeth un bod mwy rhagorol
Na'r adyn colledig fo'n ffoi'n edifeiriol:
Mae gwir edifeirwch yn enyn angylion,
Mae'r nefoedd yn adsain yn swyn eu hacenion,
Jehofa a wrendy o'i orsedd oreurog
Ar gwyn edifeiriol y meddwyn du, euog,
Mae môr o drugaredd yn nwylaw ein Duw
I'w roddi ond gofyn i'r duaf ei liw;
Oes, oes, mae trugaredd-mae eto ystor
O hono wrth orsedd anfeidrol yr Ior,
Mae yntau yn barod, yn barod o hyd,
I'w roi i bechadur hyd ddiwedd y byd.
Dirwestwyr, ymleddwch, ymlamwch yn hyf,
Dangoswch—os ydyw eich gelyn yn gryf—
Fod gobaith i'w fathru tan draed cyn bo hir,
A'i daflu yn aberth ar allor y gwir;
Cyhoeddwch eich proffes ar fynydd a dol,
A'r nefoedd a etyb eich geiriau yn ol.