Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Yr Hen Fam
Gwedd
← Plant y Rhos | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Heddgeidwad → |
YR HEN FAM
(Miwsig gan y Parch. J. Allen Jones, Llwydiarth)
CANFYDDWN draw trwy'r niwloedd du
Hen Eglwys bur ein tadau
Yn ymladd a gelynion lu
Yn nghanol anhawsderau;
Tywyllwch dudew gaed pryd hyn
Yn cuddio gwên y nefoedd,
Ond dacw haul Calfaria fryn
Yn treiddio trwy y niwloedd.
Pelydrau'r haul trwy niwl a ddaeth
I daflu ei oleuni,
Trwy'r goleu hwn diflanu wnaeth
Derwyddiaeth mewn trueni;
Allorau'r derwydd wnaed yn sarn
Yn anwyl wlad y Brython,
Cyfiawnder Duw â chleddyf barn
Agorodd ffordd i'r Cristion.
Ar ael y ddunos gwelwyd fflam
Yn wanaidd, eto'n amlwg,
Efengyl Duw yn llaw'r Hen Fam
Oedd hwn yn dod i'r golwg,
A thorodd gwawrddydd ar ein gwlad
Yn llewyrch y goleuni,
Gau dduwiau gladdwyd mewn sarhad
Yn meddrod mawl a gweddi.