Caniadau Watcyn Wyn/Boddiad Pharao a'i Fyddin
← Y lle gwag o'i ol | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Marwolaeth y Flwyddyn → |
BODDIAD PHARAO A'I FYDDIN.
"CARLAMWCH y'mlaen!" gwaeddai Pharao yn ffyrnig,
"Y'mlaen neu dianga ein caethion fföedig;
Y'mlaen er mwyn urddas yr Aipht, gref ei gallu,
Y'mlaen a chânt deimlo yr hyn maent yn haeddu;
Y'mlaen! dacw hwynt! y maent oll yn y ddalfa!
De'wch! brysiwch! y môr a'r ddwy graig a'u carchara;
Y'mlaen syrthiant oll i fy ngafael, drueiniaid,
Neu gilio i'r dyfnfôr, a boddi bob enaid."
"Y'mlaen!" medd yr Arglwydd wrth Israel yn dirion,
"Y'mlaen! ni raid i chwi ddim ofni'r gelynion;
Y'mlaen yn fy llaw trwy y dyfnfôr anturiwch,
O afael y creulon diangol a fyddwch."
Y cwmwl arweiniol yn awr a symuda,
A rhwng y ddwy fyddin yn union y nofia
Yn llusern oleulon i'r etholedigion,
Ond niwl a dyryswch i Pharao a'i weision!
Cyfoda Moses ei wïalen wan,
A thery'r môr nes hollta yn ddwy ran;
Holl Israel'n awr y'ngoleu'r cwmwl tân
Symuda mlaen dros balmant tywod glân;
A muriau uchel llyfndeg ar bob tu,
Fel muriau aur y'ngoleu'r cwmwl sy';
Heolydd aur godidog Memphis fawr,
Yn ymyl hon a droai'n llwyd eu gwawr!
Ysblenydd balmant oedd o drefniad Iôr
I ddwyn ei blant i dref trwy ddyfnder môr!
Pa le mae yr Aiphtiaid erlidgar yr awrhon?
Ymlidiant o'u holau fel gwaedgwn erchryslon!
Mae Pharao'n parhau i grochfloeddio "Carlamwch!"
A gyra'n rhyfygus mewn niwl a thywyllwch!
Yr Arglwydd galedodd ei galon ormesol,
Ymruthra i angau yn gwbl anystyriol;
Y'mlaen yn ei gerbyd carlama'n ddiarbed,
Ymlwybra'n ddidaro ar y goriwaered;
Y'mlaen yn ei ryfyg gan regu'r tywyllwch!
O hyd yn crochfloeddio, "Carlamwch! Carlamwch!!"
Y'mlaen y carlama i'r dyfnfedd diobaith,
Y'mlaen yn ei gyfer i safnrwth marwolaeth!
Goleuni gordanbaid yn sydyn ymsaetha
Drwy'r cwmwl!—i Pharao ei gyflwr ddangosa;
Y môr mawr o'i ddeutu fel creigiau aruthrol,
Yn barod i syrthio a'i guddio'n dragwyddol;
A "dinystr anocheladwy"'n gerfiedig
Ar ddysglaer barwydydd y dyfnder rhanedig!
"Yn ol, trowch yn ol!" yn ei ing llefai Pharao,
"Yn ol!" ydoedd lleddfgri y fyddin mewn cyffro;
Yn ol! y mae Arglwydd y lluoedd yn gwgu,
Agorodd ein beddrod yn barod i'n claddu;
Yn ol! ffown yn ol!" yn daranfloedd alarus,
Ymdorai o ganol y fyddin gynhyrfus!
Y'nghanol y llefain a'r cyffro truenus,
Hwy geisient droi'n ol ond yn gwbl aflwyddianus;
Eu cadfeirch ysgafndroed i'r tywod a suddai,
Y'nghanol yr annhrefn dymchwelai'r cerbydau
Dymchwelodd y "Cerbyd Breninol," a syrthiodd
Y brenin i'r llaid, a'i aur goron lychwinodd;
Y meirch, y cerbydau, a'r milwyr anffodus,
Yn gymysg â'u gilydd yn dyrfa druenus!
Y brif—ffordd balmantwyd i'r holl Israeliaid
Sydd weithian yn gors o anobaith i'r Aiphtiaid
Y'mlaen neu yn ol nid oedd neb a symudai—
Y cadarn Jehofa arafodd eu camrau;
Y dyrfa golledig y'nghanol eu hadfyd,
A lefai yn wallgof" Yn ol am ein bywyd!"
"Yn ôl!" ebe llais a gyrhaeddai y galon,
"Yn ol ni ddychwelwch byth mwy fy mhlant beilchion;
Rhedasoch y'mlaen yn rhy bell i ddychwelyd,
Mae'ch angau yn ymyl—terfynir eich bywyd;
Edrychwch, y môr sydd mewn gwanc am eich llyncu,
Mae'r bedd wedi gloddio yn barod i'ch claddu!"
Y môr safnagored oedd fel yn clustfeinio,
Fel cadfarch yn erfyn gorchymyn i ruthro,
Ei donau hirlonydd oedd fel yn ewynu
Yn flysiog wrth erfyn i'r archiad i'w llyncu,
Rhyw su farwol drwyddynt a glywid yn cerdded,
A'r muriau'n gogwyddo i ymollwng i waered!
Cyfodwyd i fyny'r wïalen a'i holltodd,
Ac ar ei gefn tawel yn ysgafn disgynodd!
Ar hyn ei fud-dònau'n gynddeiriog ymchwyddent,
Ac am ben y gelyn yn rhaiadr ymdorent!
Y môr yn rhaiadru ei hunan o'r nefoedd
Yn ffrwd o ddigofaint i bwll ei ddyfnderoedd!
Fel crochdwrf daeargryn, neu fyrdd o daranau,
Rhyw fyd mawr o ddyfroedd yn myned yn ddarnau;
Ymruthrai yn ffyrnig fel llew ysglyfaethus,
Dan ruo yn gymysg ag oerlef wylofus;
Hen Pharao a'i fyddin wedi syrthio'n ysglyfaeth
Yn llu diamddiffyn dan fynwent marwolaeth!
Cyflawnwyd y gorchwyl, y crochdwrf ddarfydda,
Y'nghilfach y graig draw yr adsain ddistawa;
Nis gwelir y bedd, y môr llyfndeg a'i cuddia,
Y dòn uwch y fan yn ei nwyfiant a ddawnsia;
Y môr ymlonydda fel wedi foddloni,
A'r tònau a chwarddant am ben y gwrhydri;
Ac Israel a gân yn iach wedi croesi,
A Pharao a'i fyddin i gyd wedi boddi.