Caniadau Watcyn Wyn/Bydded, ac felly bu
← Mary | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Y Côr Mawr → |
"BYDDED, AC FELLY Y BU."
CYN cyneu gwawl,
I dori ar ddiderfyn hawl,
Trag'wyddol nos;
Cyn rhoi'n y caddug dû ei wawr,
Ymdaenai dros y gwagle mawr,
Un seren dlos;
Ymdorai llais o Orsedd Nef,
A "bydded goleu" lon'd y llef.
Atebai gwawr o'r t'w'llwch dû,
Gan chwareu'i hedyn tanllyd cry',
Ac felly bu!
Cyn cychwyn un
O fydoedd hyna'r Crewr ei hun,
I ddechreu'i daith;
Cyn myn'd o dre'
Y crwydryn pellaf yn y ne',
I'w siwrne faith;
Y bydded bydoedd cyntaf oll,
A dreiddiai'r tryblith gwag ar goll,
Nes taro'n erbyn bydoedd lu,
O un i un yn adsain sy',
Ac felly bu!
Cyn rhoi i lawr
I orwedd yn ei wely mawr,
Yr ëang fôr;
Cyn urddo haul na lleuad dlos
Yn ymerawdwyr dydd a nos,
Llywodraeth Iôr;
Sŵn bydded dreiddiai drwy y ne',
A'r haul a'r lloer a neidiai i'w lle;
A'r môr atebai gyda rhu,
O eigion eitha'i ddyfnder dû,
Ac felly bu!
Y bydded mawr,
Mae grym Creawdwr nef a llawr,
Yn llanw 'r llef:
Mae Iôr ei hunan yn y llais,
A bydoedd filoedd yn ddidrais,
A'i hetyb ef.
Jehofa ' n cerdded megis llef,
Lle mae y byd, lle mae y nef;
A threfn o'i ôl yn cerdded sy',
Gan wyro 'i phen i'r bydded cry',
Ac felly bu!