Caniadau Watcyn Wyn/Feallai
← Y Llenladron | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
O dipyn i beth → |
FEALLAI.
FEALLAI, meddwn i,
Y caf i gan yr Awen,
I ganu penill, dau, neu dri,
Os trawiff yn ei thalcen;
Pan glywodd fi wrth fy hun yn dweyd,
Yn sych atebodd hithau,
"Os caf fi destyn gwerth i wneyd
Cân, canaf gân, feallai."
Feallai, meddwn i,
Trwy dy fod di a hamdden,
Y gwnaiff Feallai'r tro i ti
Feallai gwnaiff e, Awen?
Y mae feallai'n destyn da,
A digon o derfynau;
Yn awr am dani, ïe neu na,
"Dim un o'r ddau, feallai."
Feallai, meddwn i,
Y bydd hi'n gân aruthrol!
Bydd tarawiadau ynddi hi
Yn taro'r byd barddonol;
Feallai gallai hyny fod,
Mae hyny'n digwydd weithiau;
Er na wnes i fath beth erio'd,
"A na wnei di byth, feallai."
Feallai bydd hi'n gân
Fuddugol mewn Eisteddfod;
Fe fyddai hyny, Awen lân,
Yn enw i dy hanfod;
Mae beirniad campus, medde nhw,
I bwyso dy feddyliau;
Cei chware teg, mi wna fy llw,
"Ie, chware teg, feallai."
"Feallai cawn fy nhalu'n dda,
Feallai na chawn hefyd;
'R wyf wedi cânu mwy na wnaf,
Feallai, ar dy gredyd;
Mae llawer wedi eu twyllo'mhell,
Pell, feallai genyt weithiau;
Nes bod yn waeth, na bod ddim gwell,
Dim diolch, na dim, feallai."