Caniadau Watcyn Wyn/Y Dyn Diwyd

Oddi ar Wicidestun
Y Sabath Cristionogol Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Ar noson oer o gylch y tân

Y DYN DIWYD.

Y DYN diwyd yn dawel—weithia holl
Gyfoeth haf yn ddyogel;
I erfyn misoedd oerfel
Hir, y mae'n trysori mel.

Ei iaith Ef yw gweithio o hyd,—a'i fraich
Yw cryf rym masnachfyd;
Ar ei ysgwydd gref hefyd,
Dyna ben,—mae'n dwyn y byd!

Ei rym nis llethir yma,—i elfen
Ysbrydolfyd treiddia;
Iach olud enaid chwilia,
I ymyl Nêr, y'mlaen â!

Nodiadau[golygu]