Caniadau Watcyn Wyn/Y Goedwig

Oddi ar Wicidestun
Y Friallen Gyntaf Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Tipyn o go

Y GOEDWIG.

ADEN brydferth gysgodol,—a luniwyd
O lwyni amrywiol;
A cheir yn llechu'n ei chôl—
Un oes faith o nos fythol.

Y goedwig mewn hoen ysgydwa,—ei gwallt
Yn y gwynt a chwifia;
Yn yr awel chwareua
Yn fôr o nwyf ar fron ha'.


Nodiadau[golygu]