Caniadau Watcyn Wyn/Yr Afon

Oddi ar Wicidestun
Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Newyrth Dafydd

YR AFON.

YN ei gwely—byth yn cysgu,
Ar ei gyrfa—byth yn gorphwys:
Yn y ffynon—byth yn tarddu,
Yn yr aber—byth yn arllwys:
Gloewi ei drych,
A chânu 'n llon,
O grych i grych,
O dòn i dòn:

Rhwng y ceryg, dros y gro,
Byth yn troi 'n ol yn y tro:
Wedi dysgu ei thònau gwan,
I beidio aros yn un man:
Casglu nerth pwy bella teithia,
Penderfyniad yn y troion;
A diwydrwydd, a glanweithdra,
Yn ei thònau 'n wersi gloewon.


Nodiadau[golygu]