Cannwyll y Cymry
Gwedd
gan Rhys Prichard
(detholiad)
- Cannwyll Cymru mae d’hen Feistyr
- yn dy alw mewn rhyw lyfyr;
- gwna dy swydd ar frys, gan hynny,
- trwy oleuo pawb yng Nghymru.
- Awn i Fethlem i gael gweled
- mair a Mab Duw ar ei harffed;
- mair yn dala rhwng ei dwylo
- y mab sy’n cadw’r byd rhag cwympo.
- Ni cheir gweled mwy on hôl
- nag ôl neidr ar y ddôl,
- neu ôl llong aeth dros y tonnau,
- neu ôl saeth mewn awyr denau.
- ...
- Ni chawn aros mwy na’n tadau,
- awn i’r ffordd yr aethant hwythau;
- rhaid in fynd i wneuthur cyfri’,
- a rhoi lle i eraill godi.
- Nid oes lle i aros yma
- ond dros ennyd i hafota;
- wedyn gorfydd ar bawb symud,
- a mynd i’r ffordd yr aeth yr hollfyd.
- Y mae’r angau glas a’i fwa
- yn ein herlid ym mhob tyrfa;
- nid oes undyn all dihangyd
- rhag ei follt a’i saeth wenwynllyd.
- ...