Neidio i'r cynnwys

Casgliad o Ganeuon Cymru/Cathl i'r Eos

Oddi ar Wicidestun
Cân gwraig y pysgotwr Casgliad o Ganeuon Cymru

gan John Blackwell (Alun)


golygwyd gan Thomas Arthur Levi
Cwyn ar ol cyfaill

CATHL I'R EOS.

(ALUN)

PAN guddio nos ein daear gu
O dan ei du adenydd,
Y clywir dy delori mwyn,
A chôr y llwyn yn llonydd;
Ac os bydd pigyn dan dy fron
Yn peri i'th galon guro,
Ni wnai, nes toro'r wawrddydd hael,
Ond canu, a gadael iddo.

A thebyg it' yw'r feinir war
Sydd gymhar gwell na gemau,
Er cilio haul, a hilio brô,
A miloedd o gymylau;
Pan dawo holl gysurwyr dydd,
Hi lyna yn ffyddlonaf;
Yn nyfnder nos o boen a thrais
Y dyry lais felusaf.

Er dichon fod ei chalon wan
Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna, i flino'i hanwyl rai,-
Ei gwen a guddia'i gofid :
Ni pheidia'i chân trwy ddunos faith,
Nes gweled gobaith goleu
Yn t'wynu, megys llygad aur,
Trwy bur amrantau'r boreu.

Nodiadau

[golygu]