Categori:Evan Evans, Llangollen

Oddi ar Wicidestun

Roedd Y Parch Evan Evans (1803-1873) yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Fe'i ganwyd yn fferm y Bwlchgwyn Llangelynnin, Sir Feirionnydd. Roedd teulu ei fam yn ddisgynyddion i'r diwinydd Piwritanaidd Dr John Owen, Peniarth. Cafodd ei ordeinio yn weinidog yng Nghapel y Cutiau ger Abermaw. Yn ystod ei weinidogaeth yn y Cutiau sefydlodd capel i'w enwad yn nhref Abermaw. Ymadawodd a'r Bermo i wasanaethu fel gweinidog ym Maentwrog, ac o Faentwrog aeth i Langollen lle fu'n gwasanaethu hyd ei ymddeoliad ym 1870. Roedd Evans yn nodedig fel darlithydd ac athro yn y grefft o areithyddiaeth a darllen yn gyhoeddus. Cyhoeddodd nifer o lyfrau gan gynnwys:

Erthyglau yn y categori "Evan Evans, Llangollen"

Dangosir isod y 3 tudalen sydd yn y categori hwn.