Categori:Folliott Sandford Pierpoint

Oddi ar Wicidestun

Roedd Folliott Sandford Pierpoint (7 Hydref 1835 – 1917) yn emynydd a bardd Saesneg.

Ganed yng Nghaerfaddon, a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Frenhines, Caergrawnt. Roedd Pierpoint yn ysgolfeistr yn dysgu'r clasuron. Bu'n dysgu yng Ngholeg Somersetshire, gan dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yng Nghaerfaddon a de-orllewin Lloegr.

Cyhoeddodd The Chalice of Nature and Other Poems, a ail-gyhoeddwyd, 1878, fel Songs of Love, The Chalice of Nature a Lyra Jesu. Cyfrannodd hefyd emynau i Gydymaith yr Eglwyswr.

Ei emyn enwocaf yw For the Beauty of the Earth a ysgrifennodd yn 1864, yn 29 oed cafodd yr emyn ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Syr John Morris-Jones.

Bu farw Pierpoint ym 1917, yn 82 oed.

Erthyglau yn y categori "Folliott Sandford Pierpoint"

Dim ond y dudalen sy'n dilyn sydd yn y categori hwn.