Catiau Cwta/Catiau Cwta 1

Oddi ar Wicidestun
Catiau Cwta Catiau Cwta

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Catiau Cwta 2





CATIAU CWTA

CATIAU'N UNIG

Er turio'n hir
Amdano'n y byd
Rhyw gatiau o'r gwir
A gawn, dyna i gyd.


YR EPIGRAM

Mae megys gwenynen
Yn fywiog a thwt,
A mêl yn y corff
Gyda brath yn y gwt.


GWAETH YW'R GWIR

Gwaeth ydyw'r gwir er drwg a ddwedir
Na'r holl gelwyddau rhonc a ledir.


ANHEPGORION GWEINIDOG

Doniau seraff,
Tymer sant,
Llygad eryr,
A chroen eliffant.


NEITHIWR A HEDDIW

Neithiwr yn troi am ennyd o adloniant
Mewn gwin, a thant, a llais, a lliw a llun,
Heddiw yn cofio'n sobr y rhai a soniant
Am borthi'r bwystfil a newynu'r dyn.


BYW'N ONEST

I fyd a phawb wrth ei fodd
Byw'n onest ni bai'n anodd.


EINION A MORTHWYL

Yn einion, dal yn dynn ar lawr,
Yn forthwyl, taro megis cawr.


I'R BRODYR SYMUDOL

Ha, frodyr symudol, cewch braw
Fod yr alwad a glywch
Yn dod oddi uchod pan ddaw
A'r gyflog yn uwch.


CYSUR I'R NOETH A'R ANGHENUS

Cysur y tlotyn doeth
Mewn byd o dwyll a hoced
Yw, na phrydera'r noeth
Y piga neb ei boced.


DEISYF CLOD

O chwili glod, gochel glir
Agored wedd dyn geirwir.


BARNU ERAILL

Eraill a farna dyn wrth eu bywydau,
Eithr efe ei hun wrth ei ddelfrydau.


GOLUD

Yng ngolwg Duw, golud nid yw ond gwael,
A barnu wrth y dynion sy'n ei gael.


YR UN PETH SICR

Angau yw'r un peth sicr yn y byd,
Er hyn pan ddaw, ein synnu a gawn i gyd.


YR OED

"Yn iach, Awenydd," ebe Clod,
"Weithian ni ddichon imi fod
Iti'n gydymaith, ond addawaf dded
Gan mlyne' nawr i gadw oed â thi
Mewn cornel ddinod a di-fri
O'r gladdfa, lle maent hwy
A gladdwyd ar y plwy'."


YN AMSER RHYFEL

Pa beth yw'r trueni
A'r ing i gyd?
Ai gwewyr geni
Amgenach byd?
Neu fyd o'i ynfydrwydd,
Heb obaith, heb ffydd,
Yn brysio enbydrwydd
Ei olaf dydd?


DOETHINEB A CHYFOETH

Os yn dlawd, waeth beth a ddywed,
Ni bydd ei air yn werth ei glywed,
Os yn gefnog, ei ffolineb
A gyfrifir yn ddoethineb.


Nodiadau[golygu]