Catiau Cwta (testun cyfansawdd)
← | Catiau Cwta (testun cyfansawdd) gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Catiau Cwta 1 |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Catiau Cwta |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

CATIAU CWTA
Dyma gyfrol i'ch diddanu mewn dyddiau blin. Gŵyr pawb am ddawn Sarnicol i lunio epigram. Y mae ei ergyd bob amser yn sicr a di-feth. Clywyd ail-adrodd ei epigramâu mewn cant a mil o areithiau. Dyma stoc newydd i'n hareithwyr! Anela ei fwa yn syth at galon. Rhagrith, ond nid oes wenwyn ar ei saeth. Y mae'r ffisig ambell waith yn chwerw, ond ni ddylai beri selni i neb!
Dylai fod croeso mawr i gyfrol o'r math yma, yn enwedig yng nghanol difrifoldeb yr
amseroedd hyn.LLYFRAU'R DRYW
Golygyddion Cyffredinol:
ANEIRIN AP TALFAN
ALUN T. DAVIES, M.A., Ll.B.
CATIAU CWTA
Gartref y lluniwyd ac y craswyd y Catiau,
ond, ambell dro, estron yw'r clai.—————S.
LLYFRAU'R DRYW
CATIAU CWTA
Gan
SARNICOL
Yn fyr, rhai'n ddifyr, rhai'n ddwys,
Weithiau'n gam, weithiau'n gymwys.

Argraffiad cyntaf-Rhagfyr 1940.
Ail argraffiad-Rhagfyr 1940.
Trydydd argraffiad-Chwefror 1941.
Gwnaethpwyd ac Argraffwyd yng Nghymru gan
E. E. Sims a'i Feibion, Treforus.
CATIAU CWTA
CATIAU'N UNIG
Er turio'n hir
Amdano'n y byd
Rhyw gatiau o'r gwir
A gawn, dyna i gyd.
YR EPIGRAM
Mae megys gwenynen
Yn fywiog a thwt,
A mêl yn y corff
Gyda brath yn y gwt.
GWAETH YW'R GWIR
Gwaeth ydyw'r gwir er drwg a ddwedir
Na'r holl gelwyddau rhonc a ledir.
ANHEPGORION GWEINIDOG
Doniau seraff,
Tymer sant,
Llygad eryr,
A chroen eliffant.
NEITHIWR A HEDDIW
Neithiwr yn troi am ennyd o adloniant
Mewn gwin, a thant, a llais, a lliw a llun,
Heddiw yn cofio'n sobr y rhai a soniant
Am borthi'r bwystfil a newynu'r dyn.
BYW'N ONEST
I fyd a phawb wrth ei fodd
Byw'n onest ni bai'n anodd.
EINION A MORTHWYL
Yn einion, dal yn dynn ar lawr,
Yn forthwyl, taro megis cawr.
I'R BRODYR SYMUDOL
Ha, frodyr symudol, cewch braw
Fod yr alwad a glywch
Yn dod oddi uchod pan ddaw
A'r gyflog yn uwch.
CYSUR I'R NOETH A'R ANGHENUS
Cysur y tlotyn doeth
Mewn byd o dwyll a hoced
Yw, na phrydera'r noeth
Y piga neb ei boced.
DEISYF CLOD
O chwili glod, gochel glir
Agored wedd dyn geirwir.
BARNU ERAILL
Eraill a farna dyn wrth eu bywydau,
Eithr efe ei hun wrth ei ddelfrydau.
GOLUD
Yng ngolwg Duw, golud nid yw ond gwael,
A barnu wrth y dynion sy'n ei gael.
YR UN PETH SICR
Angau yw'r un peth sicr yn y byd,
Er hyn pan ddaw, ein synnu a gawn i gyd.
YR OED
"Yn iach, Awenydd," ebe Clod,
"Weithian ni ddichon imi fod
Iti'n gydymaith, ond addawaf dded
Gan mlyne' nawr i gadw oed â thi
Mewn cornel ddinod a di-fri
O'r gladdfa, lle maent hwy
A gladdwyd ar y plwy'."
YN AMSER RHYFEL
Pa beth yw'r trueni
A'r ing i gyd?
Ai gwewyr geni
Amgenach byd?
Neu fyd o'i ynfydrwydd,
Heb obaith, heb ffydd,
Yn brysio enbydrwydd
Ei olaf dydd?
DOETHINEB A CHYFOETH
Os yn dlawd, waeth beth a ddywed,
Ni bydd ei air yn werth ei glywed,
Os yn gefnog, ei ffolineb
A gyfrifir yn ddoethineb.
Y MUL A'R AUR
Dringo pinaglau pennaf byd ni phair
Drafferth i'r mul a ddyco faich o aur.
Y GŴR CALL
Pwyllog a chall
Yw'r dyn
A fedr ddioddef un
Nad ydyw'r naill na'r llall.
MORTHWYL ARIAN
Morthwyl arian ydyw'r gorau
I daro drwy'r cadarnaf dorau.
PREGETHWR, BYDDAR, A BLAENOR
"Daw i'r capel yn ddi-feth.
Er na chlyw'r un gair a draethaf;"
Ebe'r Blaenor, "Dyna eithaf
'Sboniad ar y peth."
RHYFEL
Pa beth a erys i'r meddwon
Ar ryfel pan ddelo i ben?
Trethi trymach a gweddwon,
Tlodi a choesau pren.
Y BENTHYCIWR
Dywedodd rhywun call, (a throsi ei iaith),
'Na fydd fenthyciwr, nac echwynnwr chwaith.'
Ai Shakespeare oedd y rhywun hwnnw? Trof
I'm silff i weld ai cywir yw fy nghof.
Chwilio am Weithiau'r Bardd, ond dim yn tycio,
Mae rhyw ddyhiryn wedi eu benthycio.
YN ÔL HEN LANC
"Gwell gwae fi na gwae ni ;" 'oes eisiau nodi
Bod hwn yn gyngor rhag priodi?
CREDO AC ELW
Rhyfedd mor aml y try credo dyn
Yn elw iddo'i hun.
Y TORRWR CYHOEDDIADAU
Gwyddom i gyd
Am rai cenhadau
A dyr o hyd
Eu cyhoeddiadau.
I rai (waeth pwy)
Hawdd maddau'n syth
Ond nid ŷnt hwy'n
Eu torri byth.
GAN YR UN CYMRO
Fe all y doctor odde'n dost
Heb falm at ei arteithiau,
Mae'r twrnai yntau, er ei gost,
Yn cael ei dwyllo weithiau,
A dichon i'r diwinydd doeth
Daro ar derfyn digon poeth.
ORIAU BYWYD
Ar ddeial ein bywyd, Profiad a nadd,
"Clwyfant i gyd, ond yr olaf a ladd."
OSGOI BEIRNIADAETH
Cyngor rhyw henwr im,
"Os am osgoi beirniadaeth
Rho heibio dy genhadaeth
Beth bynnag fo, a phaid â gwneuthur dim.
Ac os beirniedir di am hynny,
Paid â synnu".
Y DIRWESTWR ODDICARTREF
Dŵr yw ei gân, gwae'r yfwyr gwin a bir
Nes mynd o'r gŵr ar daith i estron dir,
Yno mae'r dŵr bob amser yn amheus,
Ac edrydd gyngor Paul i Timotheus.
Y LLAIS A'R SANT
Medd y Llais o'r Nef: "Nid oes i'm plant
Ond bywyd llwm, blinderus;
"Felly nid rhyfedd," ebe'r sant,
"Nad ydynt yn niferus."
"CREDO" HAWDD
Hawdd yw troi'n anffyddiwr, fe all
Pob ffôl wadu'r hyn nas deall.
I'R AWENYDD IEUANC
O chafodd egin d'awen di eu dodi
Yng ngolau dydd ar faes y papur lleol,
Nac efelycha'r ceiliog a grèd godi
O'r haul i wrando ar ei gân foreol.
CYNGHORION
Cynghorion sobr gan rai mewn oed a gawn,
I'w derbyn, fel y gweddai, 'n barchus iawn,
A'u gosod heb eu cyffwrdd o dan sel
I'w rhoddi, yn ein tro, i'r oes a ddel.
MEWN CWRDD DIWYGIADOL
Pwy yw'r eneth? Ond waeth pwy,
Wrth ei hagwedd a'i hymddygiad,
Y mae'n meddwl llawer mwy
Am ei diwyg na'i diwygiad.
Mwy o nefoedd, Duw a ŵyr,
Im, er hyn, y mae'n gyfrannu
Na'r un flêr, a'i gwallt ar ŵyr
Sydd yn dawnsio a moliannu.
MYND
Mynd y mae'r amser, meddi; nage, ddyn,
Nid amser sydd yn mynd, ond ti dy hun.
YN UN AR HUGAIN
Mor drist, mor hen, y'm cawn fy hun
Yn un ar hugain oed!
Yn drigain, cofiaf gyda gwên
Na bûm mor hen erioed
Ag own pan gefais i fy hun
Yn un ar hugain oed.
HAWL AC ATEB
"Paham y buost ti mor ffôl
A gado'r miloedd ar dy ôl,
I doddi ar dy ôl,
Fil ar ôl mil am y cyflyma'?"
"Toddent ynghynt i lawr fan yma!"
HEB NOD
Heb lan i wneud amdani
Awel deg ni'th hwylia di.
NID Y WISG
Gwisged bob gwych ddilledyn,
Epa fydd epa er hyn.
Y CYBYDD
Tebyg i borchell wedi ei besgi yw,
Mae'n fwy o werth yn farw nac yn fyw.
GWIR GYFOETH
Cyfoeth? ai cyfoeth yw
Arian a thai a thir?
Na, swm y pethau y gelli fyw
Hebddynt yw'r cyfoeth gwir.
HEN GYNGOR
Cofia hyn, ymhob ymdrafod,
Gwell llithro ar dy droed na'th dafod.
I'R IEUANG
Yn llewndid eich ieuenctid chwim
Cofiwch, O lanciau clodforedig,
Nad yw'r ieuenga' ohonom ddim
Yn anffaeledig.
BARN EI DAD
Rhaid bod dysg yn bentwr mawr
Yn y coleg acw 'nawr,
Os yw pawb yn dod fel Ianto,
Adre â chyn lleied ganto.
Y SEICOLEGYDD
Dywaid yr hyn sy'n eglur i bob un
Mewn iaith nas deall neb ond ef ei hun.
IENCTID YN EIN DILYN
Cripian yn ei flaen er mynych waeau,
Weithiau'n ddoeth ei amcan, weithiau'n ffôl,
Tynnu 'mlaen, gan lusgo cadwyn beiau
Ienctid ar ei ôl.
YR EGLWYS DDA
Yn Eglwys Dda ni elwir moni
Gan bobol ymarferol oni
Bo'i Da'n fwy amlwg na'i Daioni.
DAWN BRIN
Nid prin, ac nid rhyw ddethol iawn
Yw'r rhai a chwardd ar ben cyd-ddyn,
Rhowch imi'r dyn a fedd y ddawn
I chwerthin am ei ben ei hun.
DYN
(Hen Wireb)
Rhyfeddol fod, a'i lond
O ddirgel nerth yw Dyn,
Meistr ar bopeth ond
Efe ei hun.
NA HIDIA
Na hidia, ffrind, am wawd a sen
Eiddigus lwyth,
'Does luchio cerrig ond at bren
Ag arno ffrwyth.
Y LLESTR BREGUS
Llawer yn fy agwedd druan
A welai f'ymddatodiad buan,
Ond mae'r rhai fu'n prysur daenu
'Mod ar ddarfod, wedi blaenu.
ADDFETACH BARN
Gynt, marw erddi a wnawn heb gwyn,
Ond heddiw gwn ei deunydd,
Gwell fyddai marw er ei mwyn
Na byw'n ei chwmni beunydd.
EI FWYNHAU EI HUN
"Mwynheais eich ymgom yn fawr,"
Meddai'r clebryn, gan droi
O'r diwedd at ei wrandawr
Heb sylwi bod hwnnw ers awr
Wedi ffoi.
SERCH O FLAEN RHESWM
Syrthio mewn cariad, a phriodi'r fun,
Rhesymu wedyn, dyna arfer dyn.
DAMWAIN YN Y BLACOWT
Digwyddodd damwain erch
Mewn blacowt yn y wlad
Bwriadai Dai ei gusan serch
I'r eneth, nid i'w thad.
Y LLINYNNAU A SYRTHIODD . . .
(Stori, mae'n wir).
Bun mewn rhubanau
A sidanau
Yn cerdded mewn steil
I fyny'r eil
Yng nghapel Sardis
Ddydd cyrddau mawr,
A llinyn ei gardis,
Yn syrthio i lawr,
(Rhyw linyn oedd.
O ran lliw a llun
Na ddewisai'r fun
Ei ddwyn ar goedd).
***
Y gennad heb estyn
Bys mewn sen
Yn codi'r testun
(Gwêl uwchben),
A'i gymhwyso'n rhydd
At wendidau'r dydd,
At glymau gau,
A llinynnau brau.
***
Erys yn hir
Y sôn drwy'r sir
Am Bregeth y Gardis
Yng nghapel Sardis.
Y GWR DU—EI RAGOLWG
"Mae'n fore teg," "Ydyw, ond daw
Cyfnewid toc. Mae storm gerllaw."
"Ni gawsom haf rhagorol." "Do,
Ond gaea' drwg a ddaw'n ei dro."
"Da fai cael heddwch yn y tir."
"Och! pery'r rhyfel erch yn hir."
"Mae Hwn-a-Hwn yn ddyn di-fai."
"Ydyw, mae'n burion, onibai—"
"Mae Hon-a-Hon yn tra rhagori
Mewn moes. "H'm, 'chlywsoch chi mo'r stori?"
"Naddo, ac nis clywaf chwaith,
Y dieflyn du !" a throes i'w daith
Yn haeddu llawer cryfach iaith.
A FYNNO GLOD . . .
Am luoedd cewri clodfawr
Gwlad fy Nhadau
Â'u coffa'n fendigedig,
(Fynycha'n wŷr parchedig)
Gwêl (yn Gymraeg) eu bywgraffiadau.
DIM OND DEFNYDD TÂN.
(Barn Henwr o'r wlad).
Er yn sgolor a sboniwr sy'n deilwng o glod,
Ac yn ffrind a chymydog o'r clena',
Mae ei bregeth mor sych a phe bai wedi dod
O bentan Gehena.
SAFON
Ymchwydda'r balch wrth weld bod rhai
O'i gylch o hyd sy'n gwybod llai;
Erys y difalch yn wylaidd drwy
Gofio rhai'n gwybod llawer mwy.
GWIRIONEDD MOEL
(Profiad aml)
Myned i'r ffair i brynu gwlân,
Dod adre' wedi 'nghneifio'n lân.
NEB YN CYSTADLU
Ei garu ei hun a wnai Bil y Twyn
Yn fwy na'r un mewn gwlad a thref,
Ac ni bu neb yn ceisio dwyn
Ei gariad oddiarno ef.
LLAETHWR Y SABOTH
Cyfrannu llaeth y Gair fu gwaith y gŵr
Sul ar ôl Sul, heb fawr o dâl bid siwr,
Pe cawsai fwy, er bloeddio nerth ei enau,
'Cheid ganddo ddim ond glastwr digon tenau.
O'R DDAEAR Y CYFYD
O'r ddaear y daw'r cwmwl du
Sy'n cuddio golau'r nefoedd fry.
PRYSURDEB SEGURWYR
Pan fo'r sôn yn mynd ar led
Am fy niogi, ymgysuraf
Am fod pobl gall a ddwed
Mai'r segurwyr yw'r prysuraf.
CAM-DDEWIS
'Roedd tuedd pregethu yn Wil o'i grud,
Ond fe'i gyrrwyd i gadw siop;
Aeth Dai i'r pulpud 'nôl cwrs go ddrud
Er nad oedd fawr yn ei glop.
Gwan fu'r dinc yn y plât a'r til,
Ac fel y rhagwelodd rhai,
Cyn hir aeth yr hwch drwy'r siop ar Wil,
A'r diawl drwy'r eglwys ar Dai.
MARW YN HIR CYN EU CLADDU
Claddwyd llawer iawn yn tynnu
Am gant, oedd farw 'mhell cyn hynny.
NID I FERCH YN UNIG
Ti fedri ddal dy swydd
A mynd drwy'r byd yn rhwydd
Er goddef aml gafod
O eiriau cas,
A chael dy drin a'th drafod;
Ti fedri ddal dy swydd
O cheffi ras
I ddal dy dafod.
GWYBOD AC ANWYBOD
Ni wyr, ni ŵyr na ŵyr, 'dyw hwn ond ffôl,
Ac nid â ond ynfydion ar ei ôl.
Ni wyr, ond gŵyr na ŵyr; mae ef ymysg
Y rhai sy'n ddigon call i dderbyn dysg.
Y dyn a ŵyr, eto ni ŵyr y gŵyr,
Deffroed o'i gwsg cyn elo hi'n rhy hwyr.
Fe ŵyr, a gŵyr y gŵyr; hwn ydyw'r dyn
A geidw bawb a phopeth ar ddihun.
PRINDER PRES
"Golud yw gelyn penna'r awen"
Medd un a ŵyr, ar hanesyddol sail,
Os gwir y peth, dylasem fod yn llawen
O feddu awenyddion heb eu hail
Yng Nghymru heddiw'n tyfu yn y tes
Bywiol i'r awen bér, sef prinder pres.
TWRIO AM Y GWRAIDD
"Golud yw gwraidd pob drwg sy mewn dynoliaeth,
A llai na dim," medd rhywun, "yw ei werth,"
A brysia'n rhith gŵr na chais ond bywoliaeth
I dwrio am y gwreiddyn â'i holl nerth.
ADOLYGIAD AR FYWYD A GWAITH
Y PARCH. JOHN SILCYN JONES.
Dymuna'r adolygydd estyn
Llongyfarchiadau ar y gwaith,
Y gyfrol orau ar y testun
Mewn unrhyw iaith.
CRYN DIPYN
"Ni wn ryw lawer am y cread crwn,"
Medd Dafydd Rhys y Rhipyn,
"Ond rhwng yr hyn a wn a'r hyn nas gwn,
Y mae'n gryn dipyn."
GWEDDI JAC Y GWAS
Arglwydd y ddaear, dyro ras
Ataliol imi, Jac y Gwas,
Dysg imi drin y gaib a'r rhaw
Heb rwgnach am y llaid a'r baw.
Ar ddy'-Sadyrnau gyda'r nos
N'ad imi ffoi rhag carthu'r clôs.
Na foed i mi anghofio'r drefn
Pan fyddo meistir yn troi'i gefn.
Ac atal fi rhag codi 'mhac
Pan fyddo'r hen ddyn bach yn grac.
Dysg imi odde'r amal dro
Yr elo meistres ma's o'i cho'.
(Gobeithio nad yw wedi dod
I ddeall sut mae pethau'n bod
Rhyngof â'i merch). O dyro ras
Ataliol imi, Jac y Gwas.
DIRMYGUS POB CYNEFIN
"Bûm i'n byw 'n ymyl Ty'nycoed
Lle magwyd Twm, fab Gwenno,
Ac ni ddeellais i erioed
Fod dim byd tumewn i'w ben o."
"Ei fod ef heddiw'n ŵr o fri
'Does neb o farn yn synnu,
Os cadd ei fagu'n d'ymyl di,
Ei anffawd ef oedd hynny."
Y GWREICHION WEDI DIFFODD
Wil y Gof oedd hwyliog wr,
Yn fawr a thal forthwyliwr;
Ddäed gweled a gwylio
Y gwreichion o'i einion o!
O'r efail Wil a giliodd,
Ei drem i'r pulpud a drodd.
Mawr a thal fel morthwyliwr,
Ond ar lwyfan gwan yw'r gŵr.
Ar ei draed, er dewr udo
Maith am hwyl, methu mae o;
Forthwyliwr anferth helynt,
Cawr ar goedd yn curo'r gwynt ;
O'r oer nâd a dery'r nen
Ni chawn yr un wreichionen.
CYFAILL, NID CENEDL
'Dwy'n hoffi na Chymro, na Sais, nac Almaenwr,
Nac Iddew, na Gwyddel, na Sgotyn na Sbaenwr.
Nac un, waeth ba genedl y bo yn y byd,
'Rwy'n hoff o'm cyfeillion, dyna i gyd.
Y DOETHOR
Doethor ymhob gwyddor gêl,
Arweinydd i fro'r anwel.
Yn gywrain o bob goror
Oes, tud a chenedl daeth stôr
Amryfal a mawr hefyd.
I'w ben anghymen ynghyd,
Perlau o ddyfnderau dysg
A gau emau yn gymysg,
Campwaith, ac iselwaith sâl,
Aur disberod a sbwrial.
Athronydd aml-lythrennog,
A rhwydd ysglyfaeth pob rôg.
Doethor ymhob gwyddor gêl,
Arweinydd i fro'r anwel,
Ond, a ellid un dallach?
Hyd droeon byd, druan bach!
YN OL HEN GYMRO.
"Na ladd, na ladrata," mor ddwyfol eu sail,
I'r meddyg mae'r cyntaf, i'r twrnai'r ail.
Y SCWLYN
Inc ar hyd ei law,
Sialc drwy ei bocedi,
Heuwr lle ni ddaw'n
Fynych fawr o fedi.
Dyn yng nghanol plant,
Plentyn ymysg dynion,
Nid yw, mwy na'r sant,
Heb ei lu gelynion.
Cyfyd yn ei ddydd.
Stormydd yn ddiamau,
Ond ei olew a rydd
Ar wyllt ferw'r mamau.
Mae rhyw ran o'i fyd
Beunydd yn ei erbyn,
Pam? Myn roddi o hyd
I rai na fyn dderbyn.
DIM NEWID
Ca'dd Sioni bres,
Ac aeth yn rownd i'r byd
Heb fawr o les,
Sioni fydd ef o hyd.
Y GAMP SY'N DENU
Ofni cwymp ni fyn campwr,—uchelion
A chwilia'r anturiwr,
A dyr enaid yr annwr
Ydyw'r gamp a huda'r gŵr.
Y GWESTAI GWELW
(Horas)
E ddaw ef yn ddi-ofyn—ar ei dro
I'r drws, rhaid ei dderbyn,
Westai gwelw, i'r plasty gwyn
Yr un fath â'r hen fwthyn.
Y DYDD YN FFOI
(Horas)
Awn, a'r gwanwyn ar gynnydd—O fun hoff,
I fwynhau ei gilydd.
A ffraeth gân, ffrwyth y gwinwydd,
Miri a dawns, ffoi mae'r dydd.
TEIMLO'N FAWR
Aml un fydd yn teimlo'n fach,—er ei boen,
Ar bwys rhywun praffach;
Ond saif drel o isel ach
Mal cawr yn ymyl corrach.
HEN LANC HIRBEN
(I'r eneth a fynnai werthu tocyn iddo;)
Hirben wr wyf erbyn hyn—a gwn waith
Genethod a'm dilyn,
Eithaf hawdd dweud beth a fyn
Y decaf—gwelaf docyn.
GWEN YN GWRTHOD MENTRO
'Nol Gwen, r'wy'n gymen, r'wy'n gall,—r'wy'n addurn
O rinweddau diball,
'Rwy'n ŵr nad oes arna' i wall,
Iawn wr—i rywun arall.
Y FI FAWR
Rhyfedd ŵr a fydd o hyd—a'i fwyniant
Ar lwyfannau bywyd,
Hunan yw ei gân i gyd,
Fi enfawr y cyfanfyd.
Y GALON EURAID.
Ni wyr y galon euraid
Anwadalwch llwch a llaid,
Er tân certh, er llif nerthol
Pery y pur aur ar ôl.
Y TWRNAI
Pwy roes dy fraster it i gyd?
Ffyliaid yn ffraeo yn y byd,
Cânt hwy'n eu tro'r amheuthun mawr
O'th weled dithau'n ffreio 'nawr.
Y BOR
Ei stori faith a diflas o
A yrrodd lawer ffrind ar ffo;
Ond daeth cymdogion lu ynghyd
I'w hebrwng pan ddaeth yma'n fud.
TYBED
Yn aml ystyrir Iorwerth y Cyntaf,
Yn un o'r brenhinoedd mileiniaf, bryntaf
Mewn hanes oherwydd Cyflafan y Beirdd
(Pennaf cynnyrch eich bryniau heirdd.)
Ac eto o'r giwed synhwyrus, nwydus
Mae'r nifer sy'n fyw yn fawr arswydus.
Pe cyflawnasai'r gwaith yn llwyr
Efallai y buasem, (pwy a wyr?)
Yn 'styried nad ydoedd Iorwerth y Cyntaf
Yn un o'r brenhinoedd mileiniaf bryntaf,
PITI GARW
(Efelychiad o Coleridge).
Rhedodd y sôn ym mysg pob rhai
Trwy'r ardal, a thuhwnt, fod Dai
Ty'nandras wedi marw.
Wrth glywed am ei alw o'r byd
Mor sydyn, fe droes pawb yn fud
Am foment, yna dweud ynghyd
O piti, piti garw!
Ond ymhen wythnos mwy neu lai,
Fe ddaeth y sôn nad ydoedd Dai
Ty'nandras wedi marw,
A'i fod fel arfer ar ei dro
Yn gyrru pobol dda o'u co'
A chyd-ochneidiai pawb trwy'r fro,
O piti, piti garw!
BEDDARGRAFFIADAU
EILLIWR
Gan grafu crefais, haeddais well bywoliaeth,
Wrth geisio gwella garw wedd dynoliaeth.
TAFARNWR
Er côf am John Jones, Tafarn Talymaen,
Mae'r widw'n cadw'r fusnes yn y blaen.
YR YFWR MODDION
Yfodd foddion drwy ei fywyd
Fwy na neb o dan y nen,
Gyda'r moddion olaf clywyd
Tôn y Botel uwch ei ben.
Y DEINTYDD
Ymwelydd, gwisg dy agwedd ddifrifolaf,
Mae'r Deintydd yma'n llenwi ei geudod olaf.
HOPYSFARDD
Gwariodd ei oes a'i bres uwchben ei wydr,
Gan dorri deddfau dyn a Duw a mydr.
GWRAIG DAFODRYDD
Ar ôl blynyddoedd hir o drin a thrafod
Mae Siân o'r diwedd wedi dal ei thafod.
TRI ARWR
i
Unwaith y flwyddyn, y mae'r Cymry'n dod
I gwrdd â'i gilydd er cyd-seinio'i glod,
Ond haera rhai haneswyr dwfn eu dysg
Na bu'r fath ddyn a Dewi Sant yn bod.
ii
Llywelyn, ein Llywelyn, gadarn lyw,
Tra mor, tra Brython, bydd ei enw byw,
Ond p'un, O p'un o'n Llywelynnod yw?
iii
Dafydd a'i gywydd gwin, ei fri sydd fawr
Yn ein colegau, ond, i lan a lawr
Drwy Gymru, 'does dim meddwi ar ei win
Mae'r werin oll mewn cyflwr sobor 'nawr.
WRTH LYGAD MOC
"Mari yw'r ferch i 'nharo i,"
Meddai Moc, ac fe'i priododd hi.
'Mhen tipyn wedi clymu'r ddau
'Roedd un o lygaid Moc ynghau.
"Beth," meddwn, "sy ar dy lygad di?"
Meddai Moc, "Cael gwraig i nharo i."
LIMRIGAU A GWIRIONEBAU
STORI DAL
Fe redai ail was fferm yn Llŷn
Mor gyflym na welid mo'i lun,
Ar ôl rowndio das wair
Ryw ddwyaith neu dair
Rhoddai naid ar ei gefn ei hun.
OED HENFERCH
'Roedd henferch yn byw yn Llanboidy
Na wyddai neb faint oedd eu hoed hi,
Pan ofynnodd Wil Sam
Ei hoed, fe roes lam
A ffoi rhag ei thafod a'i throed hi.
BARN PAWL
'Roedd dynes yn byw ym Mhorthcawl
Yn dadlau yn bybyr dros hawl
Y wraig mewn eglwysi;
Meddai dyn ar ei phwys hi,
'Mae'n well gen i wrando ar Bawl.'
CLWTFAB
Mae pregethwr yn byw 'Mhentre-clwt
A'i ddoniau yn boenus o bwt,
Ond daeth 'nôl o'i deithiau
Drwy'r Unol Daleithiau
A'r wyddor i gyd wrth ei gwt.
HEICIO
Meddai Wil ar ôl dwy awr o heicio
'Mae 'nghoesau i'n barod i streicio,
Dyma hogen wrth rôd
Ei char modur yn dod
Beth am lifft? Dyna'r heicio 'rwy'n leicio.'
GOCHELION
i
Gochel echwyn gan dy gâr,
A gochel ŵr cribddeiliog,
Gochel dŷ lle byddo'r iâr
Yn canu'n uwch na'r ceiliog.
ii
Gochel y Bardd ar Daith, fe all fod stoc
O'i gerddi diweddaraf yn ei boc.
iii
Gochel y Dyn Darbodus, doeth ei drefn,
Mae'n siwr o safio tipyn ar dy gefn.
iv
Gochel y Bachan Hael, rhag iddo droi
Atat am bres, wrth gwrs er mwyn eu rhoi.
V
Gochel y Gŵr â'r Wyneb Hir, a fydd
Fel rhybudd angladd ar y tecaf dydd.
vi
Gochel y Bachan Digri, ar amserau
Mae'n euog o anhygoel erchyllterau.
vii
Gochel y Scwlyn, geill ar ambeil adeg
D'atgoffa am dy wendid mewn gramadeg.
viii
Gochel y Gŵr Gochelgar cyn y daw
Am fenthyg punt, a'th gadw dithau draw.
ANHYGOELION
i
Mae cyfrol o bregethau darllenadwy
Newydd ymddangos, llanwant ddirfawr adwy.
ii
Cynhelir 'Steddfod fawr yn Llan-y-marian
Er mwyn diwyllio'r bobol, nid gwneud arian.
iii
Llyfrau Cymraeg, filoedd ar filoedd sydd
Yn gwerthu o Gaergybi i Gaerdydd.
iv.
Fe drefnir Cyrddau Mawr gan ein henuriaid.
Ym Methel, er mwyn achub pechaduriaid.
V
Dwedir bod Moses Isaac Aaron
A'i fusnes yn llewyrchus yn Nhregaron.
CYMRU HEDDIW
i
Y TŶ
Dyddiau'r wythnos a dy' Sul
Byw mewn stafell glôs a chul
Yn y cefn,
Dyna'r drefn.
Rŵm y ffrynt dan glo fynycha',
A phictwrau, nid o'r gwycha'
Ar y wal,
Da'-cu, mam-gu, a Nanti Sal.
Beibl a bwrdd dan drwch,
O barchus lwch.
Gan fod drws y rŵm ynghau,
Ni bydd symud un o'r ddau
Ond y diwrnod du
Pan fo angladd yn y tŷ.
ii
BWYD
Tê bedair gwaith y dydd,
Ac weithiau fwy,
Tebot a phentan heddiw sydd
Yn eilun ac yn allor iddynt hwy,
Y Cymry tila, gobaith Cymru Fydd.
iii
GWISG
Brethyn du'r ddafad, haf a gaeaf gynt,
A wisgent drwy y gwres a'r glaw a'r gwynt.
Heddiw ymddengys im
Fod Cymry (o'r ddau ryw)
Bellach yn byw
Heb wisgo ond y nesa peth i ddim.
Mae rhywbeth yn eu bost,
Fod hyn yn arbed cost.
iv
ADDYSG
Dysgir y plant drwy Gymru i anwylo
Yr heniaith beunydd beunos nes ei sbwylo,
Hyderwn na bydd farw o dan eu dwylo.
Y PULPUD
Dilyna'r hoelion wyth y manach hoelion.
Cyn hir i dincian, yn ôl pob argoelion,
I ddim ond seddau gwag a muriau moelion.
vi
MWYNIANT
Car modur (yngháu)
Ar ben y mynydd
(Rhaid caniatáu
Bod ein byd ar gynnydd.)
Pedwar yn prysur
Lenwi'r car â mwg
(Mae baco'n gysur
Heb wneud fawr drwg).
Miwsig jazz band
O Lunden bell,
Onid yw'n grand?
Amhosib' gwell!
Y grug ar bob llaw
Yn llawn flodeuo,
Y mêl o draw
Yn arogleuo.
A'r bannau rhyddion
Yn grŷn dan ias
Cân ehedyddion
O'r wybren las.
Car modur (yngháu)
Ar ben y mynydd,
A raid caniatáu
Bod ein byd ar gynnydd?
vii
UN O RIANEDD HEDDIW
Mae ceirios ar ei gwefus rudd
Pan dderfydd tymor ffrwythau,
A rhôs o newydd dwf bob dydd
Sy' ar ei dwyfoch hwythau,
A gwyn y lili deg a'i swyn
O siop y drygist ar ei thrwyn.
PROFIAD PRYDYDD HEDDIW
Mi geisiais nyddu pethau coeth,
Dwfn eu dysg er mwyn y doeth ;
Ond cefais mai rhy brin oedd rhain
I werthfawrogi pethau cain.
Wedyn i lawr o ris i ris
Er mwyn rhai o gynheddfau is,
(A gostwng tipyn ar y pris).
Dywedai rhywrai fod y wlad
Yn galw am bethau rhwydd a rhad
Ar lên i'r wlad ni welaf lwydd.
Bid gain, bid goeth, bid rad, bid rwydd.
ANFARWOL GOFFA DEWI DDYFRWR
(Heddiw)
Dydd Gŵyl Ddewi,
Dydd cadw stŵr,
Nid dydd i dewi
Nac yfed dŵr.
Diolchir i Olygyddion y "Western Mail" a "Baner ac Amserau Cymru" am ganiatad i argraffu rhai o'r darnau hyn.
Gwasg Prifysgol Cymru
LLYFRAU RHODD GWYCH.
Y FLODEUGERDD GYMRAEG.
Golygwyd gan yr Athro W. J. Gruffydd.
Pris, 7/6.
ELFENNAU BARDDONIAETH.
Golygwyd gan yr Athro T. H. Parry-Williams.
Pris, 3/6.
GERALLT GYMRO.
Disgrifiad Gerallt o Gymru a hanes taith Gerallt drwy Gymru.
Cyfieithiad gan Mr. Thomas Jones. Pris, 3/6.
JOHN FROST.
A study in Chartism by Mr. David Williams.
Price, 12/6.
GWAITH GUTO'R GLYN.
Casglwyd gan Mr. John Llewelyn Williams, a golygwyd gan yr Athro Ifor Williams.
Pris, 12/6.
Anodd a fyddai cael yn Gymraeg well llyfrau rhodd na'r uchod. Gellir eu cael a llyfrau eraill cyffelyb iddynt oddi wrth unrhyw lyfrwerthwr.
Anfoner am restr o lyfrau'r Wasg at Ysgrifennydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.
SARNICOL

Brodor o Ffostrasol, Ceredigion yw gwneuthurwr y Catiau. Cafodd ei enw oddi wrth y tyddyn lle'i ganed. Ei enw parch ydyw Thomas Jacob Thomas, ond wedi ymneilltuo o fod yn bennaeth Ysgol Mynwent y Crynwyr, Merthyr anghofiwyd hwnnw ymron. Bu'n astudio gwyddoniaeth yng Ngholeg Aberystwyth, a rhyw chwarau â llenyddiaeth ar hyd ei oes.
Enillodd y gadair Genedlaethol yn 1913 a chyhoeddodd "Ar Lan y Môr" ac "Odlau Môr a Mynydd" yn gynnar yn ei oes. a chymer hynny'n esgus dros eu bod mor ddigrif o ddifrifol.
Yn gymharol ddiweddar rhoes i'r cyhoedd "Flodau Drain Duon," ac er y dywed rhai, efallai, fod y rheini'n ddifrifol o—bethma—cawsant dderbyniad croesawgar iawn!
Nodiadau[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1953, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.