Ceiriog a Mynyddog/Cymru Fach i Mi
← Dim Ond Deilen | Ceiriog a Mynyddog gan Mynyddog golygwyd gan John Morgan Edwards |
Bedd Llewelyn (Mynyddog) → |
CYMRU FACH I MI.
MAE rhai yn lladd ar Gymru,
Am nad yw Cymru'n fawr,
Ac am fod Cymru'n fechan,
Yn tynnu Cymru i lawr;
Ond nid yw hynny yn rheswm
I ladd ar Gymru iach,
Tra dywed teimlad calon
Mai anwyl popeth bach.
Cymru i mi
A'i cheinion di-ri',
Mae'n llonaid fy nghalon
Er lleied yw hi.
Ceir weithiau loi o ddynion
A synwyr digon tlawd,
Yn dweyd mai "geifr" yw'r Cymry,
Er mwyn ein gwneyd yn wawd;
Ond os yw'r Cymry felly,
Mae'n well gen i gael ffoi
I wlad yn llawn o eifr
Na gwlad yn llawn o loi.
Mae rhai yn trin Eisteddfod,
A dwedant yr un pryd
Fod well cael rhedeg mulod
Na hela beirdd ynghyd;
Ond tra b'ont hwy yn trafod
Rhedegfa ffol a gwag,
Af finnau i'r Eisteddfod
I ganu cân Gymra'g.
Mae rhai yn trin genethod
Anwylaf Gwalia lân,
A dwedant nad oes harddwch
I'w gael yng ngwlad y gân;
Ond dweded pawb a fynned,
A phlesied pawb ei hun,
Mi fynnaf wraig o Gymru,
Neu ynte, fynnai'r un.
Y mae dyffrynnoedd breision
Yn nhir Amerig bell;
Y mae yng ngwlad y Saeson
Ddoldiroedd llawer gwell;
Ond os yw serch cenhedloedd
Yn rhedeg ar i lawr,
Fe rêd serch Cymro i fyny
At droed yr Wyddfa fawr.
Cymru i mi
A'i cheinion di- ri',
Mae'n llonaid fy nghalon
Er lleied yw hi.