Ceiriog a Mynyddog/Gyda'r Wawr
Gwedd
← O Na Bawn yn Afon! | Ceiriog a Mynyddog gan Mynyddog golygwyd gan John Morgan Edwards |
Yr Amser Gynt → |
GYDA'R WAWR.
ALAW," Gyda'r Wawr."
UDGANAI udgorn rhyfel,
Gyda'r wawr,
Gweryrai'r meirch yn uchel,
Gyda'r wawr;
Bu galed iawn y brwydro,
A'm hanwyl briod yno
Yn gorwedd wedi 'i glwyfo
Gan alw am ei Weno,
Gyda'r wawr.
Eis yno'r boreu wedyn
Gyda'r wawr,
I chwilio am Llewelyn,
Gyda'r wawr;
Ce's weld ei ruddiau gwelw,
Ce's glywed sŵn fy enw,
Oddiar ei fin wrth farw—
Rhyw foreu prudd oedd hwnnw,
Gyda'r wawr.
Bob dydd 'rwy'n mynd er hynny,
Gyda'r wawr,
At fedd y gŵr wy'n garu,
Gyda'r wawr;
I blannu tlysion flodau,
Eneiniwyd gyda'm dagrau,
Tra'r dydd yn taflu'i olau,
I ddweyd y cwyd ryw foreu,
Gyda'r wawr.