Ceiriog a Mynyddog/Maes Bosworth
Gwedd
← Hugh Penri'r Pant | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Hela 'Sgyfarnog → |
MAES BOSWORTH.
ALAW, "Rhyfelgyrch Capten Morgan."
CYMRY a gasglant tan fanerau'r Ddraig,
Cefnu wna'r llencyn ar ei fûn;
Cefnu wna'r milwr ar ei blant a'i wraig,
Rhwymy ei gleddyf wrth ei glun.
Cewri a floeddiant, hefyd cewri glyw,
"Am ein coron gwnawn y ganfed gais;
Gwibiog ddraig— fellten fflamia ym mhob trem,
Ac yn uchel daran tyrr eu llais.
Trannoeth yn foreu fel y gadarn graig,
Wele blant Gwyddfa yn y gâd:
Wele goroni dan yr oesol Ddraig,
Frenin naturiol ar ein gwlad.
Tua Maes Bosworth gyda'r hwyr brydnawn,
Cododd Prydain ei hir waewffon:
Dyma hen frwydr drôdd i'r ochor iawn,
Byth na'n galwed i ail-ymladd hon.