Ceiriog a Mynyddog/Mi Welaf Mewn Adgof
Gwedd
← Mae'n Gymro Byth | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Rhosyn yr Haf → |
MI WELAF MEWN ADGOF.
Y Gerddoriaeth i T.T.B.B. gan Dr. Jos. Parry.
Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan,
A'r afon dryloew yn ymyl y fan:
O'm blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,
A'r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres.
Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt,
Yn eilio 'r hen alaw a ganwn i gynt;
Rwy 'n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,
A 'nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.
Rwy'n gweled y defaid a'r ŵyn ar y bryn,
Rwy 'n gweled gwynebau sy 'ngwaelod y glyn;
Rwy'n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,
Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.
O sued yr awel, a rhued y don,
Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,
Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn,
Yng Ngwalia mae 'r galon ple bynnag yr awn.