Ceiriog a Mynyddog/Morfa Rhuddlan
Gwedd
← Ffarwel iti, Gymru Fad | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Y Defnyn Cyntaf O Eira → |
MORFA RHUDDLAN.
ALAW," Morfa Rhuddlan " (The Plain of Rhuddlan)
Gwgodd y nefoedd ar achos y cyfion,
Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;
Methodd gweddïau fel methodd breuddwydion,
Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,
Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol
Achos y cyfiawn a chartref y gwan.
Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,
Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,
Syrthied i'r ddaear fel syrthiodd efe.
Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo'r Iôr;
Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,
Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr.