Ceiriog a Mynyddog/Paradwys y Ddaear
← Cartref | Ceiriog a Mynyddog gan Mynyddog golygwyd gan John Morgan Edwards |
Hoffder Pennaf Cymro → |
PARADWYS Y DDAEAR.
PARADWYS y ddaear yw Cymru fach lonydd,
A bendith y nef ar ei phen;
'Rwy'n caru gwylltineb ysgythrog ei chreigydd,
A'm serch a ymglyma o amgylch ei moelydd
Fel iddew'n ymglymu am bren.
Coleddwn ein hiaith, a mawrygwn ein gwlad;
Tra cura y galon yn gynnes,—
Tra gronyn o serch yn ein mynwes,
Carwn hen Gymru fâd.
Mae'r awel a chwery a grug ei mynyddoedd,
A'i dyfroedd yn iechyd i gyd;
Ac yma mae'r awen, a'r delyn trwy'r oesoedd,
A rhyddid yn byw yn mynwesau y glynnoedd,
Addurnant baradwys y byd.
Mae enwau ei dewrion trwy'r byd yn ddiareb,
Ni fagodd y ddaear eu hail;
Ei harwyr gwladgarol sydd lawn o wroldeb,
A'u henwau ddarllennir ar graig anfarwoldeb
Tra goleu yn llygad yr haul.
Cael bwthyn i fyw, a chael bedd a ddymunaf
Yn rhywle yng Nghymru bach lon,
A'm gweddi at Dduw mewn Cymraeg a anadlaf,—
Bendithia hen Gymru, O! Dad trugarocaf,
:Dy nodded fo'n aros ar hon.
Coleddwn ein hiaith, a mawrygwn ein gwlad;
Tra cura y galon yn gynnes,—
Tra gronyn o serch yn ein mynwes,
Carwn hen Gymru fâd.