Neidio i'r cynnwys

Ceiriog a Mynyddog/Y Gwcw

Oddi ar Wicidestun
Yr Arad Goch Ceiriog a Mynyddog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)


golygwyd gan John Morgan Edwards
Y Mynyddau Mawr

Y GWCW.

Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi'r moroedd
I'r ynys fechan hon.

A chwcw gynta'r tymor
A ganai yn y coed,
'Run fath a'r gwcw gyntaf
A ganodd gyntarioed.

Mi drois yn ol i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple'r oedd y deryn mwyn.


Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren;
Ac yno'r oedd y gwcw,
Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma'n cwrdd—
Mi sychais i fy llygad,
A'r gwcw aeth i ffwrdd.


Nodiadau

[golygu]